Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/406

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cynhelid ball ar ddiwedd y sessiwn, a daeth tro E. Ff. i gadw drws y ball—room. Cafodd ei ddenu gan un o'r boneddigion i gymeryd gwydriad, ac yn anwyliadwrus fe ymunodd yn y ddawnsfa. Dyna y trosedd. Nid hir y bu heb bregethu; adferwyd ef drachefn. Wedi hyny yr oedd ei zel a'i ymroddiad i'r gwaith yn cynyddu gyda'i ddyddiau. Pregethai yn fywiog, dilynai y Cyfarfod Misol yn gyson, a byddai bob amser yn ei le yn nghynulliad yr eglwys gartref. Un o'r rhai a'i hadwaenai oreu a ddywedai am dano, "Yr oedd efe yn perchen doniau rhwydd, ac yn dduwinydd da, ac arferai bregethu yn rheolaidd o ran materion, ac yn gyffrous o ran dull; ac er i'w dymer lem fywiog ei arwain i rai profedigaethau ar ryw dymhorau yn ei oes, yr oedd pawb a'i hadwaenai yn ei gydnabod yn Gristion yn wir, yn yr hwn nad oedd dwyll."

Y Parch. Robert Griffith—Llanwodd y gweinidog parchus hwn le mawr yn Nolgellau, ac yn yr oll o Sir Feirionydd am haner canrif lawn. Y mae iddo le arbenig mewn cysylltiad a dechreuad a chynydd yr achos Methodistaidd yn y dref. Mab ydoedd i Griffith a Margaret Roberts, o dafarn y Tŷ Mawr, Dolgellau. Ganed ef Hydref 13, 1770. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc, ac wedi hyny dygwyd ef i fyny yn y gelfyddyd o wneuthur hetiau. Ysgrifenodd ei hun ychydig o hanes dechreuad ei oes. Fel hyn y dywed am ei argraffiadau crefyddol cyntaf,—"Un o'r pethau mwyaf neillduol yr ydwyf yn ei gofio a ddechreuodd dueddu fy meddwl at radd o sobrwydd, ac i sylwi ar fy ffyrdd, oedd myned i wrando yn ddamweiniol ar y pregethwyr a ddeuent yn achlysurol i'n tref; rhai yn perthyn i'r Bedyddwyr, ond yn amlaf i'r Methodistiaid. Byddwn yn cael rhyw bleser neillduol wrth wrando ar bregethwr doniol; weithiau mi a gawn fwy o bleser nag mewn dim arall bron. Ond byddwn yn ceisio dilyn pleserau cnawdol ar yr un pryd; eithr byddai y rhai hyny weithiau yn myned yn hollol ddiflas i mi, hyd oni byddwn yn gorfod eu gadael, fel y gwartheg hyny yn gadael eu lloi gan frefu ar eu hol. Un noson, mewn dawns—gyfarfod,