Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/407

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

digwyddodd i mi fyned allan ar y canol, ac edrych i fyny ar y lleuad a'r ser, pan ar unwaith y daeth ynfydrwydd y pleser o ddawnsio i fy meddwl yn y fath fodd grymus, fel y bu raid i mi, yn lle myned ymlaen gyda'm cymdeithion llawen, dalu y shot, myned adref, gan alaru na allwn gael pleser yn y ddawns." Yr oedd rhywbeth a wnelai crefydd â'i feddwl yn nyddiau ei ieuenctid, er na chafodd ddim hyfforddiant crefyddol, a chydnabydda yn onest ddarfod i'r Arglwydd yn ei oruwchlywodraeth fawr ei atal rhag myned ar gyfeiliorn. "Byddwn yn dal sylw ar y pregethwyr," meddai, "yn son am yr Arglwydd yn llefa wrth ddynion, a bod y diafol yn temtio; ond ni fedrwn ddychmygu pa fodd yr oedd y naill na'r llall yn bod." Wedi methu yn ei ddisgwyliad o gael myned yn exciseman, penderfynodd fyned i weithio i Liverpool. "Er nad oeddwn yr amser hono yn gwybod am hanes Jacob pan yn myned o'i wlad, yr oeddwn mewn rhan yn bur debyg iddo, sef yn addunedu gwasanaethu Duw os rhoddai efe i mi ymborth a dillad." Cyrhaeddodd ben ei daith, ond crwydredig fu ei feddyliau am ysbaid o amser. Ymben oddeutu tair blynedd, pa fodd bynag, ac efe yn 21 oed, gwnaeth benderfyniad i ymuno â chrefydd. "Ar ryw nos Sabbath yn mis Tachwedd, 1791, perswadiwyd fy meddwl yn rymus i ymuno â phobl yr Arglwydd; ac wrth ddychwelyd adref, wedi bod yn gwrando y pregethau, dywedais yn fy zel a'm cariad cyntaf wrth ddau o'm cydwladwyr, y rhai oeddynt gyfeillion i mi, fy mod yn meddwl myned i'r society y nos Lun canlynol." Hyny a wnaeth. Ac o'r pryd hwnw hyd Ebrill 1793, bu yn cyfranogi o freintiau y gymdeithas eglwysig yn Liverpool. "Yn mis Mai y flwyddyn hono," meddai, "ymsefydlais yn Nolgellau, lle y ganwyd ac y magwyd fi."

Yn union ar ol ei ddychweliad, fel yr ydys wedi crybwyll rai gweithiau, elai gyda chyfeillion o Ddolgellau i wahanol ranau y wlad i gynal cyfarfodydd gweddïau. Prinder pregethwyr yn y Sir a barai iddynt wneuthur hyny. Yn fuan perswadiwyd ef i