Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/409

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na roddaf dipyn o ddillad am dano?" Dyna ei ddull. Safai yn uchel yn ngolwg pawb o chwaeth a barn dda.

"Yr oedd yn ŵr hybarch yr olwg arno, o faintioli corfforol cyffredin, o wynepryd tirion, a chanddo lygaid gloywon a chall; yr oedd yn meddu mwy na chyffredin o synwyr a phwyll, ac nid. hawdd oedd ei gyffroi." Yn niwedd ei oes byddai yr olwg arno yn batriarchaidd. Teithiai bob amser ar geffyl; gwisg dda am dano; cloak fawr dros hono bron yn ei guddio ef a'i anifail. Ystyrid ef yn un da iawn am gadw at ei gyhoeddiad, a byddai yn hynod o gyson i ddechreu y cyfarfod eglwysig yn brydlon. Pan y tarawai y clock saith o'r gloch, gwisgai ei wydrau, a. dechreuai ei hun pwy bynag fyddai yn bresenol.

Hynodid ef yn y cyfarfod eglwysig am ei ofal arbenig am y plant, a'r bobl ieuainc. Byddai yn ei elfen gyda hwy, a hwythau gydag yntau. Meddai allu fwy na'r cyffredin i hyfforddi ac adeiladu yr eglwys mewn gwybodaeth a chrefydd. Yr oedd yn ŵr blaenllaw a dylanwadol, nid yn unig yn y dref, ond yn Nghyfarfod Misol ei sir hefyd. Ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd oeddynt hysbys i bawb o'i gydoeswyr. A'r hyn a'i gwnelai yn ŵr tra galluog mewn cymdeithas oedd ei ffraeth-eiriau a'i atebion parod, llawer o ba rai a gofir hyd heddyw gan ei gymydogion.

Priododd ddwy waith; y tro cyntaf yn 1797; ar ail dro yn 1830. Cyfarfyddodd â phrofedigaeth fawr yn y rhan olaf o'i oes; oblegid rhyw anghydwelediad, bu am ychydig amser heb fod yn perthyn i'r Methodistiaid. Yr hyn a ddywed ei fyw-graffydd,. y Parch. Roger Edwards, am hyn ydyw, "Digon tebyg y gallai fod byrbwylldra o bob ochr; a gwir yr hen air, 'Nid yw y goreu o ddynion ond dynion ar y goreu." Nid oedd yr holl helynt. na mwy na llai na bod chwedlau wedi cael eu taenu, nid am dano ef ei hun, ond am un oedd yn dal perthynas ag ef, y rhai ni phrofwyd ac o bosibl nad oedd modd eu profi. Daeth ef yn ol at ei frodyr yn bur fuan, ac mewn parch mawr y diweddodd. ei oes yn eu plith. Bu farw Gorphenaf 22, 1844, yn 74