Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD III
Y DEFFROAD CREFYDDOL YN YMLEDU.

CYNWYSIAD—Ffynonellau yr hanes am y cyfnod—Y Crynwyr a Vavasor Powell—Hugh Owen, Bronclydwr—Olynwyr Hugh Owen—Hanes Eglwysi Annibynol Cymru—Y deffroad yn hir yn dechreu—Y daith o Leyn i Langeitho—Y tân yn d'od gyntaf i Lanfihangel—Y pregethu cyntaf yn Abergynolwyn—Dechreuad yr achos yn Nghorris—Yr achos yn dechreu yn Llwyngwril a'r Bwlch yn amser Lewis Morris—Y drysau yn agor i'r Efengyl yn Towyn a Bryncrug—Maes-y-Afallen—Ymneillduaeth yn Mhlwyf Towyn—Crybwyllion gan J. Jones, Penyparc—Y rhwystrau ar y ffordd—Proffwydoliaeth Morgan Llwyd o Wynedd—William Hugh a Lewis Morris.

  MAE y flwyddyn 1785 yn adeg fanteisiol i edrych ymlaen oddiwrthi i'r dyfodol. Y mae yn gyfnod arbenig yn hanes crefydd y rhan yma o Sir Feirionydd, yn gystal ag yn hanes crefydd Cymru oll. Yn y flwyddyn hon y dechreuodd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru. Yn yr un flwyddyn yr aeth Mr. Charles o'r Bala i Gymdeithasfa Llangeitho, ac y dywedodd yr hen Barchedig Daniel Rowlands am dano, "Rhodd yr Arglwydd i Wynedd ydyw Charles." Yn y flwyddyn hon, hefyd, dywed awdwr Methodistiaeth Cymru, "nad oedd yr un cynghorwr i'w gael o Rhoslan yn sir Gaernarfon hyd Machynlleth yn Sir Drefaldwyn." Nid oedd yr un pregethwr o gwbl o fewn i'r rhan a elwir yn awr Gorllewin Meirionydd, y flwyddyn hon, ond Edward Roberts, Trawsfynydd, yr hwn a elwid gan ei erlidwyr, "Hen Ficer y Crawcaill." Oddeutu yr amser hwn y dechreuwyd pregethu gyntaf gyda dim cysondeb yn yr ardaloedd rhwng y Ddwy Afon. Cyn y flwyddyn 1780, nid oes dim hanes fod neb o'r Methodistiaid wedi pregethu yr un bregeth i dynu sylw, ac i beri ei