Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/413

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr Ysgrythyrau, ac yr oedd hyd y diwedd yn astudio a chyfansoddi pregethau. Yn ei gartref byddai yn gyson yn holl foddion gras, ac yn ffyddlawn gyda phob achos da. Bu yn ddiwyd, cywir, a difefl yn ei gysylltiad a'r byd; ac ni byddai byth yn dangos teimlad angharuaidd neu genfigenllyd os byddai brodyr ieuangach yn y weinidogaeth yn derbyn mwy o sylw nag efe. Cymerwyd ef yn glaf wrth ddychwelyd o Gyfarfod Misol; a phan yr oedd cnawd a chalon yn pallu, yr oedd ei ffydd a'i obaith yn Nghrist yn dal yn gadarn a diysgog."

Y Parch. John Williams.—Preswyliai yr ugain mlynedd olaf ei oes yn Waukesha, Wisconsin, U.D. Ganwyd ef yn Manchester. Ei fam, yr hon oedd yn Saesnes o genedl, a fu farw pan oedd yn bump oed. Wedi hyny, dygwyd ef i fyny gan ei ewythr, Ellis Williams, Dolgellau, a phreswyliodd yma am tua phedair blynedd ar ddeg ar hugain. Yma y dechreuodd bregethu. "O berthynas i mi fy hun," meddai mewn llythyr at yr ysgrifenydd, "derbyniwyd fi yn aelod cyflawn o Gyfarfod Misol y sir yn Dolyddelen, Mai 1834, ac yn ddilynol i hyny, yn mis Mehefin, yr un flwyddyn, yn gyflawn aelod o'r holl Gyfundeb. Cychwynodd y symudiad yn fy nghylch yn Nolgellau, ar ddiwedd 1832." Cyn ei ymfudiad i'r America, bu yn byw am naw blynedd yn Dyffryn, man genedigol ei ail wraig, yr hon oedd yn chwaer i'r diweddar Hugh Jones, draper, Dolgellau, a'r hon, meddir, oedd yn "wraig o gyneddfau naturiol cryfion anghyffredin, o wybodaeth eang, ac o dduwioldeb diamhenol."

Y gwasanaeth cyhoeddus penaf a wnaeth yn y wlad yma oedd, ei waith fel ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd. Bu yn y swydd o Mai 8, 1846, hyd Mawrth 8, 1854. Nid oedd yn bosibl cael ei well i gyflawni y swydd hon. Mae ei gofnodion yn fanwl, cyflawn, a chryno. Yn ystod tymor ei ysgrifenyddiaeth casglodd lawer o ffeithiau mewn cysylltiad â'r achos i'w rhoddi yn Llyfr y Cofnodion. Yn Nghyfarfod Misol