Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/414

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Abermaw, Mawrth 1854, ar ei gychwyniad i'r America, cwynai y brodyr oll oblegid eu colled am dano fel brawd, fel pregethwr, ac yn enwedig fel ysgrifenydd manwl a ffyddlon i'r Cyfarfod Misol. Ac fel arwydd o'u parch iddo, penderfynwyd fod i'r trysorydd ei anrhegu âg 8p o Drysorfa y Cyfarfod Misol.

Wedi ymfudo i'r America, bu yn weinidog yr eglwys Fethodistaidd yn Ebensburg, Penn., am bum mlynedd. Symudodd oddiyno i Pittsburg, lle yr arhosodd am flwyddyn; am y pum' mlynedd nesaf bu yn gweinidogaethu yn Freedom, Swydd Cattarangus, Efrog Newydd. Yn 1866, ymsefydlodd yn Waukesha, lle bu yn hynod ddefnyddiol hyd ddiwedd ei oes. Bu yn ysgrifenydd y dosbarth yno am gryn nifer o flynyddoedd, yr hon swydd a gyflawnodd gyda'r gofal a'r taclusrwydd oedd mor nodweddiadol o hono. Oddeutu mis cyn marw ysgrifenai at ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, "Carwn i chwi fy nghofio at y frawdoliaeth yn y Cyfarfod Misol, ynghyd âg eglwysi y Methodistiaid yn ac oddiamgylch Dolgellau." Y Sabbath olaf y bu fyw pregethodd yn nghapel Jerusalem, yn hynod o wlithog, a'r wythnos wed'yn yr oedd wrthi yn parotoi pregeth at y Sabbath dilynol; ond cymerwyd ef ymaith yn hynod sydyn, Ebrill 30ain, 1887, yn 81 mlwydd oed.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Roger Edwards
ar Wicipedia

Y Parch. Roger Edwards, D.D. Yn y Wyddgrug y treuliodd ef dymor mawr ei oes, ond gan mai yn Nolgellau y dechreuodd ei yrfa gyhoeddus, rhoddir yma grynhodeb o hanes y cyfnod hwnw. Ganwyd ef yn y Bala, Ionawr 10fed, 1811, ond symudodd ei rieni i fyw i Ddolgellau, pan nad ydoedd ond tri mis oed. Ei dad oedd yn flaenor tra amlwg yn nghapel Salem, ond a fu farw yn nghanol ei ddyddiau. Dechreuodd y Parch. Roger Elwards fod yn weithgar a defnyddiol gyda chrefydd pan yn llanc ieuanc. Efe oedd ysgrifenydd "Seiat y Plant, ac am dymor yn ysgrifenydd yr Ysgol Sabbothol. Daeth ei dalent a'r elfen wasanaethgar a hynodai ei oes i'r golwg yn ieuengach na'r cyffredin. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn Nolgellau o flaen y Parch. Richard Jones, Wern, nos