Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/415

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbath, Rhagfyr 5ed, 1830, cyn bod yn llawn 20 oed. Bu yn cadw ysgol yn Nolgellau y pryd hwn am yn agos i dair blynedd, ac ymroddodd ar unwaith i bob gwaith crefyddol. Yn nechreu 1835, symudodd o Ddolgellau i'r Wyddgrug, ac yno yr ymsefydlodd hyd ddiwedd ei oes. O hyny i'r diwedd mae ei fywyd gweithgar a llafurus yn hysbys. Bu yn ysgrifenydd y Sasiwn am 32 mlynedd; yn olygydd y Drysorfa am dros 40 mlynedd. Golygodd amryw lyfrau pwysig; casglodd a chyfansoddodd amryw eraill. Bu yn llenwi yr holl swyddi a berthynai i'r Cyfundeb. A'i gymeryd oll yn oll, y tebyg ydyw mai efe oedd y mwyaf gwasanaethgar i achos y Methodistiaid o bawb yn ei oes. Bu farw Gorphenaf 19eg, 1886, yn 76 mlwydd oed.

BONTDDU.

Hawlia y Bontddu, yn ol pob tebyg, yr ail le mewn hynafiaeth ymysg eglwysi dosbarth Dolgellau. Adeiladwyd y capel yma yn ail o ran amser, sef yr agosaf i'r capel cyntaf yn Nolgellau. Ond y mae bron yr oll o hanes boreuol yr Eglwys. wedi myned ar gyfrgoll. Nid ymddengys fod dim ond un frawddeg o'i hanes yn y cyfnod hwn wedi ei chadw trwy yr argraff-wasg, sef yw hono, "Mae hen achos gan y Methodistiaid yn yr ardal hon, dan yr enw Bontddu, hyd heddyw." Ysgrifenwyd y frawddeg yna ddeugain mlynedd yn ol, ac y mae yn cyfeirio at le arall yn y gymydogaeth y bu llawer o bregethu ynddo yn lled foreu. O fewn oddeutu milldir i Bontddu, yn nes i'r Abermaw, y mae ffermdy o'r enw Maesafallen, y lle enwocaf oll yn y cylchoedd hyn, mewn cysylltiad â. chrefydd, ar gyfrif ei hynafiaeth. Rhoddwyd crynhodeb o hanes y lle wrth ysgrifenu am yr achos rhwng y Ddwy Afon. Gan fod yr achos yn y Bontddu wedi tarddu o'r fan hon, y mae gair o berthynas i'r lle yn angenrheidiol eto. O gylch canol y ganrif ddiweddaf, yn ol Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, perchenog a phreswylydd