Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/416

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Maesafallen oedd Cadben William Dedwydd, gwr genedigol o Abergwaun, Sir Benfro, yr hwn a fu yn seren oleu yn awyrgylch crefydd yn y rhan yma o'r wlad. Yr un adeg, yr oedd y Parch. Benjamin Evans yn gweinidogaethu gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn. Yr oedd y Cadben Dedwydd yn berthynas agos i wraig B. Evans. Oddeutu 1770 cofrestrodd Mr. Evans gegin Maesafallen i bregethu ynddi, a byddai yn dyfod yma yn fynych i gyhoeddi y newyddion da hyd 1777, pryd yr ymadawodd o Lanuwchllyn i Hwlffordd. Oherwydd diffyg gweithwyr, gadawyd y maes hwn am dros ugain mlynedd. Diau mai y pregethu a fu yma ydoedd cnewyllyn yr achos a ddechreuwyd wedi hyny yn y Bontddu. Cafodd yr ardal y fantais fawr o glywed yr efengyl yn cael ei phregethu cyn bod rhyddid na thawelwch i bregethu yn unman arall o fewn y cyffiniau. A'r hyn sydd debygol ydyw, mai yn ystod yr ugain mlynedd dilynol i 1777 y ffurfiwyd achos yma gan y Methodistiaid. Dywedir yn mhellach am Maesafallen, "Deuai rhai o bregethwyr y Methodistiaid hefyd yno i bregethu. Rhoddai hyn gyfleusdra i grefyddwyr Dolgellau gael ambell bregeth; ac er fod y ffordd ymhell, fe ddeuai llawer o honynt yno, y gwyr ar ol cadw noswyl oddiwrth eu gwaith, a'r gwragedd hefyd, ar ol rhoddi y plant i orphwys— i wrando yr efengyl; 'yr oedd gair yr Arglwydd yn werthfawr yn y dyddiau hyny!'" Methodistiaeth Cymru, I, 509. Cyfarfyddir âg ambell un eto o'r hynafgwyr a'r hynaf—wragedd a glywodd yr hen bobl yn adrodd, mai mewn cwch dros Lyn Penmaen y byddent yn myned o Ddolgellau yno, am fod y ffordd hono yn ferach, yn gystal ag yn fwy dirgelaidd.

Yr ydys yn lled sicr fod eglwys wedi ei sefydlu yma cyn 1800. Yn y flwyddyn hono, medd Lewis William, y daith Sabbath oedd—Bontddu, Llanfachreth, a Dolgellau. Yr unig daith yn y dosbarth. Eto gellir casglu nad oedd yr eglwys wedi ei ffurfio ond ychydig amser cyn y dyddiad uchod, oblegid â'r eglwys yn Nolgellau, ac nid yn y Bontddu, yr ymunodd Hugh