Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/417

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Barrow, Tynant, pan y daeth at grefydd, yr hyn a gymerodd le oddeutu 1796. Dywedir y byddai ef y pryd hwnw yn myned i Ddolgellau, i'r cyfarfod eglwysig am naw o'r gloch boreu Sul, i'r Bontddu at ddau, ac yn ol i'r dref at chwech yn yr hwyr. Gallai yr un pryd fod yr eglwys wedi ei sefydlu rai blynyddau yn flaenorol i'r dyddiad crybwylledig. Ond hynyma yn unig ellir gael am ddechreuad yr achos.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn 1803; dyddiwyd y weithred Mehefin 21 y flwyddyn hono. Ymddiriedolwyr—Hugh Barrow, Robert Griffith, John Griffith, John Ellis, Bermo, Thomas Pugh, Owen Dafydd, Thomas Charles. Rhoddodd Mr. William Jones, perchenog a phreswylydd Bryntirion, y tir ar brydles o 99 mlynedd, am swllt o ardreth flynyddol. Yr oedd ef yn wr cyfrifol yn yr ardal, ac yn uwch ei amgylchiadau na'r cyffredin. Efe oedd y prif ysgogydd gydag adeiladu y capel, a phriodolid dwyn traul yr adeiladaeth iddo ef, oblegid nid oes dim gwybodaeth am na thraul na dyled yn perthyn i'r addoldy fel yr adeiladwyd ef gyntaf. Yn ychwanegol at ei sefyllfa dda yn y byd, yr oedd Mr. Jones yn ŵr hynaws a charedig; ceir ei hanes yn ymgymeryd â'r cyfrifoldeb penaf gydag ysgol ddyddiol yr ardal, yn amser Lewis William. Ymhen amser newidiodd ei farn, gadawodd y Methodistiaid, ac ymunodd â'r Wesleyaid, a dywedir iddo adeiladu capel drachefn iddynt hwythau yn y Bontddu. Bu adnewyddu a helaethu ar hen gapel y Methodistiaid amryw weithiau. Ac yn ei ddull diweddaraf, cyn symud i'r capel presenol, ychydig dros ugain mlynedd yn ol, ei gynllun ydoedd, hir un ffordd a chul y ffordd arall, y pulpud yn yr ochr, a chorph y gwrandawyr ar y dde a'r aswy i'r llefarwr. Yn 1864 prynwyd y brydles a'r ardd o flaen yr hen gapel am £30; a'r flwyddyn ganlynol adeiladwyd y capel presenol, i gynwys lle i 200, ar y draul o oddeutu £500. Yr un flwyddyn hefyd adeiladwyd ysgoldy Caegwian, yr hwn a gynwys le i 100 i eistedd. Rhoddwyd am y tir yno 5p. 7s. Oc. ac aeth y draul rhwng pobpeth yn £103. Mae y capel a'r ysgoldy yn awr