Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/418

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

(1888) wedi eu clirio oddieithr £100. Yn raddol y cliriwyd y ddyled, trwy y casgliad dydd diolchgarwch am y cynhauaf, arian yr eisteddleoedd, ac yn benaf trwy fyned a'r box casglu o amgylch yn yr Ysgol Sabbothol.

Bum' mlynedd ar hugain yn ol ysgrifenodd rhyw frawd oedd yn gydnabyddus a'r ardal, Hanes Byr am Ysgol Sabbothol y Bontddu. Fel hyn y dywed mewn ychydig o frawddegau,— "Sefydlwyd yr Ysgol Sabbothol yn ardal y Bontddu rywbryd yn y flwyddyn 1803. Dechreuwyd ei chynal yn y capel. Y peth a arweiniodd i'w sefydliad oedd, dyfodiad gŵr dieithr o Sir Gaernarfon i'r cymydogaethau hyn, o'r enw John Jones, chwarelwr wrth ei alwedigaeth. Bu yn gweithio yn chwarel Cefncam am oddeutu blwyddyn, a lletyai yn Cwmmynach Isaf. Byddai yn dyfod i'r Bontddu bob Sabbath, ac yn myned o amgylch i gymell pobl i ddyfod i'r ysgol. Dywedir mai ei rhif pan ei sefydlwyd oedd chewch. Nid oes dim byd neillduol ynglyn a'r hanes yma." Ni bu yn hollol heb ddim neillduol yn perthyn iddi ychwaith, hyd yn nod yn ei blynyddoedd cyntaf. Ymhen rhyw ddeuddeng mlynedd ar ol ei dechreuad buwyd yn meddwl am ei rhoddi i fyny. Cynhaliwyd cyfarfod athrawon o bwrpas i ymgynghori pa un ai ei rhoddi i fyny ynte ei chario ymlaen a wneid. Yr oedd Lewis William yma ar y pryd yn cadw ysgol ddyddiol, ac nid oedd dim o'r fath beth a rhoddi dim byd i fyny yn ei gredo ef; cystal y gellid disgwyl gweled Cader Idris yn symud oddiar ei gwadnau, neu afon y Bermo yn rhedeg yn ei hol tua'r mynydd, a'i weled ef yn rhoddi yr Ysgol Sul i fyny. Trwy ei bresenoldeb a'i ddylanwad, y penderfyniad y daethpwyd iddo yn y cyfarfod y noson hono oedd ei chario ymlaen deued a ddelai.

Ymysg y rhai a fu yn flaenllaw gyda'r achos yma, enwir Richard Edwards, Muriau Cochion, a Catherine Edwards, ei chwaer, fel y rhai hynotaf o'r crefyddwyr cyntaf. Owen Dafydd a Hugh Barrow hefyd oeddynt ser disglaer y cyfnod cyntaf. Yr oedd hen grefyddwyr yr eglwys hon yn hynod ar amryw