Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/419

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfrifon am eu duwioldeb, am eu hymlyniad wrth eu gilydd a'u parch i'w gilydd, am eu ffyddlondeb yn dilyn moddion gras. Preswyliai rhai teuluoedd yn y cymoedd pell, a chanddynt lawer o filldiroedd o bob cyfeiriad i ddyfod i'r capel, er hyny ni chollai yr un o honynt byth mor cyfarfod eglwysig wythnosol. Y côf gan y rhai hynaf sydd yn fyw yn awr am danynt ydyw, eu bod yn nodedig am eu duwioldeb, eu hymddiried yn y naill a'r llall, a'u hymroddiad i grefydd. "Rhai rhagorol y ddaear" mewn graddau anghyffredin o uchel oeddynt. Y mae hanes cyfarfodydd eglwysig a gynhaliwyd yma yn 1807 yu nodweddiadol o'r cymeriad a roddir iddynt, yn gystal ag yn addysgiadol i grefyddwyr ymhob man, ar bob amserau. Bu L. W. yma yn cadw ysgol ddyddiol amryw weithiau o dro i dro, ac am y chwarter yn yr haf yr oedd yma y flwyddyn hon y mae wedi cadw cofnodion manwl o'r cyfarfodydd eglwysig, o ba rai y rhoddwn ychydig engreifftiau, fel y gellir gweled y dull y dygid seiadau ymlaen yr amser hwnw.

Y CYD-CYNULLIAD YN Y BONTDDU YN 1807.

"Y dull yr oeddid yn myned ymlaen yn y rhan hyny o addoliad Duw, sef y cydgynulliad, yn y Bout—ddu, yn y flwyddyn 1807; a'r pethau neillduol oedd yn cael eu dwyn ymlaen yn ein plith er adeiladaeth. Y cydgynulliad cyntaf oedd ar Mehefin 26ain, yn dechreu am 7 o'r gloch y prydnhawn.

Yn gyntaf, fe ddarllenwyd rhan o'r Gair Sanctaidd, sef y 3edd. benod o'r Ephesiaid, a thrachefn fe ganwyd penill o hymn, sef hwn:—

Nid oes un gwrthrych yn y byd,
Yn deilwng o fy serchi a'm bryd;
Mae tynfa'm henaid canaid cu
At drysor tragwyddoldeb fry.'

Yn ganlynol fe aed i weddio ar i Dduw ein bendithio. Nis gallwn lai na meddwl y llwyddwyd yn y tro. Wedi hyn ni a godasom ac a eisteddasom, a'r gair a sefydlodd yn fwyaf neill-