Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chofio. Dyma yr adeg y dechreuodd y deffroad crefyddol yn y parth hwn. Dyddorol iawn ydyw hanes y dechreuad, a'r modd y cariwyd yr achos ymlaen yn y gwahanol ardaloedd am y 30ain mlynedd cyntaf, hyd y flwyddyn 1810. Gwnaethpwyd pethau anhygoel trwy gyfrwng Rhagluniaeth a threfn gras yr efengyl, ac yr oedd llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'i bobl. Ond yr anhawsder, erbyn hyn, ydyw gwybod pa bryd y dechreuodd yr achos, a pha fodd y dechreuodd mewn llawer man. Pe buasai yr hanes wedi ei ysgrifenu driugain mlynedd yn ol, buasai yn ddigon hawdd dyfod o hyd i'r holl amgylchiadau ynglŷn â ffurfiad yr eglwysi. Ond, bellach, mae y tô o hen bobl oedd yn gweled yr oll a'u llygaid wedi eu symud oddiar y ddaear. Nis gellir gwneyd dim yn awr ond casglu defnyddiau goreu gellir oddiyma ac oddidraw. Nid yw yr hyn a ysgrifenwyd gan dystion gweledig ond ychydig. Adgofion Hen Bregethwr, a ysgrifenwyd gan Lewis Morris ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol, ac a ymddangosodd yn y Traethodydd am Ionawr, 1847, ceir rhai ffeithiau lled gywir. Yn hanes bywyd Mr. W. Hugh, Llechwedd, rhoddir tipyn o oleuni pa fodd yr oedd pethau yn y dechreuad yn nghanolbarth y rhan yma o'r wlad. Ceir rhai ysgrifau, hefyd, yn yr hen Gyhoeddiadau Misol am ddechreuad yr achos yn Nghorris, a manau eraill. Tua deugain mlynedd yn ol, yr oedd y Parch. John Hughes, Liverpool, yn parotoi i ysgrifenu Methodistiaeth Cymru. Anfonwyd yr hanes iddo gan rywun neu rywrai—ni wyddis yn iawn pwy—o'r wlad yma, ac er fod yr hanes yn wasgaredig, y mae wedi ei gasglu gan yr awdwr parchedig yn y modd goreu, yn ol y wybodaeth oedd ganddo ef, ac y mae yr hyn a ysgrifenwyd yn y cyfrolau hyn yn hynod o werthfawr. Y mae yn deilwng o sylw, hefyd, nad oedd yn mwriad Mr. Hughes, nac yn ei gynllun ychwaith, i roddi hanes cyflawn am bob eglwys, ond yn unig roddi hanes dechreuad crefydd, a'r pethau mwyaf hynod yn y cyfnod hwnw yn ngwahanol siroedd Cymru.