Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/420

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

duol yn ein meddwl y tro hwn oedd, y 18fed adnod yn y 3edd benod o'r Ephesiaid, ac oddiwrtho ni a farnasom fod arnom eisiau yn neillduol ein gwreiddio a'n seilio mewn cariad.

Ni a feddyliasom oni chaem ein gwreiddio mewn cariad, na cheid dim ffrwyth arnom, ac felly y byddai i'r Tad dynu pob cangen ddiffrwyth ymaith (Ioan xv. 2). Ni a farnasom fod hyny yn beth dychrynllyd os byddai iddo gymeryd lle yn ein plith.

2 Ac oni chaem ein gwreiddio mewn cariad, nas gallem sefyll yn ngwyneb yr ystormydd o demtasiynau a phrofedigaethau oddiwrth y byd, y cnawd, a'r diafol; ac y byddem o rifedi y rhai a fyddent yn ngwyneb y brofedigaeth yn cilio. (Luc xiii. 13). Ni a ddychrynasom yn fawr rhag ein bod heb ein gwreiddio mewn cariad, wrth edrych ar y gair yn Matt. xiii, 20, 21, "Ar hwn a hauwyd ar y creigleoedd yw yr hwn sydd yn gwrando'r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn &c." Ac hefyd yr adnod hon a'n dychrynodd, 2 Thes. ii, 10, "Am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig." A ni a ddarfum farnu hefyd fod y morwynion ffol, y cyfryw ag sydd yn cael yr enw yn Matt, xxv, heb eu gwreiddio. mewn cariad; ac ni a ofnasom rhag ein bod o'u rhifedi. Hefyd ni a feddyliasom fod y gwas anfuddiol sydd yn cael son am dano yn yr un benod, yn gyfryw nad oedd wedi ei wreiddio na'i seilio mewn cariad, oddiwrth iddo farnu ei feistr yn ŵr caled. Meddyliasom na wnaethai cariad byth felly. Ac hefyd fod yr holl rai hyny yr un modd heb eu gwreiddio a'u seilio mewn cariad sydd yn niwedd yr un benod, y rhai nad oeddynt wedi ymddwyn yn addas tuag at Dduw a'i achos a'i bobl yn y byd; ac yn hyn ni a welsom y perygl yn fawr rhag ein bod o rifedi y rhai hyny a ant i gosbedigaeth dragwyddol. Ni a farnasom hefyd fod y prenau diffrwyth y sonir am danynt yn Matt. vii. 19, yn cyfeirio at yr un peth, ac mai anghariad yw y drain a'r ysgall, neu o leiaf y gellid cymeryd hyny, oherwydd ni a feddyliasom mai anghariad yw y peth mwyaf pigog, ac nas gellid casglu dim