Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/421

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffrwyth da lle y byddai. Meddyliasom hefyd fod y rhai hyny yn yr 22ain adnod yn ol o'u gwreiddio a'u seilio mewn cariad, er eu bod yn proffesu eu hunain eu bod wedi proffwydo yn enw yr Arglwydd, a gwneuthur gwyrthiau lawer yn ei enw ef. Casglem hyn oddiwrth dystiolaeth yr Arglwydd Iesu, gan ei fod yn dweyd nas adwaenai ef mohonynt. Dyna ddarfu i ni feddwl oedd hyny, dim cyfeillach na chymdeithas wedi bod rhyngddynt âg ef erioed, ac fe ddarfu i ni farnu fod cyfeillach a chymdeithas rhwng y rhai sydd wedi eu gwreiddio a'u seilio mewn cariad â'r Arglwydd.

3. Ni a farnasom nad oedd dim ar a allem ni ei wneuthur yn y byd er dim lles a buddioldeb i ni, os byddem heb ein. gwreiddio mewn cariad, yn ol tystiolaeth Paul, I Cor. xiii. 1, 2, 3.

4 Ni a welsom ei ardderchowgrwydd yn fawr yn yr adnodau hyn yn yr un benod—4, 5, 6, 7, 8, 13; ac oni chaem ein seilio mewn cariad, na byddai ein holl adeiladaeth yn ddim gwell na'r tŷ ar y tywod (Matt. vii, 26).

Yn ganlynol ni a farnasom mai peth ag yr oedd yr holl saint wedi ei gael oedd hyn, sef eu gwreiddio a'u seilio mewn cariad, a'u bod yn amgyffred i ryw raddau beth yw y lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder (Ephes. iii. 18). Ac yn y fan hon ni a ddychrynasom rhag ein bod yn fyr o gael y peth ag yr oedd yr holl saint yn feddianol arno. Ond hyny a'n cysurodd, ein bod eto yn y fan y cawsant hwy ef, ac y gallem ddweyd, pwy a wyr na welir ni y peth nad ydym. Ac i'r diben o ddod o hyd i wybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, ni a farnasom y gallai fod er budd neillduol i ni ymdrechu cael allan yr Ysgrythyrau sydd yn datguddio ac yn dweyd am gariad Duw, erbyn y cydgynulliad nesaf."

AIL GYD-GYNULLIAD, GORPHENAF 3YDD. 1807.

"Ni a'i dechreuasom ef trwy ddarllen rhan o'r Gair, sef Ioan xv., ac yn ganlynol, ni a ganasom yr hymn hwn:—