Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/424

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dafydd, blaenor cyntaf y Bontddu. Symudodd oddiyma yn 1845 i Sion, a threuliodd ddiwedd ei oes yn y Dyffryn. Troes allan, fel y ceir gweled ei hanes eto ynglyn a'r eglwysi eraill, yn un o'r cymeriadau mwyaf trwyadl. Efe oedd trysorydd yr eglwys yma am rai blynyddau, ac wrth gyflwyno y llyfr i'w olynydd ar ei symudiad i fyw i Arthog, ysgrifena, "Daliwch sylw, nid aeth dim mwy nag a gasglwyd at gynal y weinidogaeth rhoddwyd y gweddill a gasglwyd at hyn i fyned at achosion eraill, yr hyn mae'n debyg nad oedd weddus."

Hugh Pugh. Dywedai hen bregethwr wrtho ef ar ei neillduad i'r swydd, "Cofia Hugh, rhaid i ti siarad pan y dymunet ti dewi, a thewi pan y dymunet ti siarad."

William Williams (hynaf), Bwlch Coch, ac Edward Parry a neillduwyd i'r swydd o flaenoriaid Chewfror 1844. Cyn hir ar ol hyn dewiswyd W. Williams, (ieu). Bwlch Coch, a William Barrow, wedi hyny o Lanelltyd. Yn ddiweddarach bu John Jones, o'r Bontddu yn flaenor yma. Y rhai sydd yn y swydd yn bresenol ydynt Mri. W. Williams, Hugh Price, John Parry, Owen Jones, Rees Jones, ac Owen Edwards.

Dyna yr oll o restr y blaenoriaid mor gywir ag y cafwyd hi o'r lle rai misoedd yn ol. Enwir o blith y chwiorydd yr amser gynt Pegy Sion a Jiny Llwyd fel y rhai hynotaf. Bu eraill hefyd yn wasanaethgar i hyrwyddo y gwersyll yn ei flaen. Ac yn yr amseroedd diweddaf, dylid coffàu yn arbenig wasanaeth ffyddlon Mr. Roderick Humphreys a'i briod yn lletya pregethwyr er's amser maith hyd y pryd hwn.

Deugain mlynedd yn ol, a chyn hyny, ychydig a roddid gan yr eglwys hon yn gystal ag eglwysi eraill cyffelyb iddi, i'r rhai fyddai yn eu gwasanaethu yn yr efengyl—swllt, deunaw ceiniog, a dau swllt y Sabbath—a cheir yn llyfr yr eglwys y byddai Mr. Humphreys, a Mr. Rees Jones, Abermaw, yma yn pregethu yn fynych, ac ar ol eu henwau hwy y mae dwy O gron. Ond yr amser aeth heibio oedd hyn. Bum mlynedd ar hugain yn ol, pan oedd y gwaith aur yn llwyddo yn yr ardal, yr oedd yr eglwys