Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/426

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pedair milldir ydyw yr ardal o dref Dolgellau, ac mewn safle yn hytrach o'r neilldu, i gyfeiriad y mynyddoedd, fel nad oedd dim yn sefyllfa y gymydogaeth i beri bod yr efengyl wedi cael dyfodiad bore i'r lle. Y flwyddyn y pregethwyd gyntaf gan y Methodistiaid yma oedd 1783, mewn lle a elwir Llyn-pwll-y-gela, a hysbysir mai William Evans, Fedw Arian, gerllaw y Bala, oedd y pregethwr. Cymerodd hyn le pan oedd pawb yn y gymydogaeth yn ofni derbyn pregethwyr a phregethu i'w tai. Y gŵr a agorodd ei dŷ gyntaf oedd Evan James, yr hwn oedd yn byw yn Tynyffridd, oddeutu milldir o bentref Llanfachreth. Mae teulu y gŵr hwn yn golofnau o tan yr achos eto, ac un o honynt, sef Mr. Griffith Evans, Ffriddgoch, yn flaenor yn yr eglwys. Gwynebodd Evan James rwystrau mawrion trwy agor drws ei dŷ i'r efengyl, a deuai helbulon am ei ben o bob cyfeiriad. Codai erledigaeth chwerw yn ei erbyn oddiwrth ei gymydogion, ac hefyd oddiwrth dylwyth ei dŷ ei hun. "Un tro, fe ddaeth Mr. Foulkes, o'r Bala, a rhyw offeiriad o'r enw Mr. Williams [y Parch. Peter Williams] gydag ef. Ymddygodd yr erlidwyr yn ffyrnig tuag atynt, a thynwyd Mr. Foulkes i lawr, a bu gorfod arno dewi. Tra yr oedd hyn yn cymeryd lle, yr oedd yr offeiriad o'r Deheudir yn y ty. Aeth un John Lewis o Ddolgellau ato, a gofynodd iddo, a oedd digon o wroldeb ynddo i roddi ei einioes dros Iesu Grist, os byddai raid. Yntau a atebodd fod. Yna aeth allan tua'r gynulleidfa, y rhai pan welsant arno wedd offeiriad a ofnasant, gan ddywedyd, 'Offeiriad ydyw;" a chafodd lonydd i bregethu.'[1] Cyfarfyddai Evan James â rhwystr blin ac anniddig arall. Yr oedd ei wraig, y pryd hwn, o leiaf, yn ddieithr i'r efengyl, ac amlygai anfoddlonrwydd pendant i'w gŵr wario dim o'i arian tuagat draul y pregethwyr. "Nid oedd yn anfoddlon iddo dreulio rhyw gymaint am gwrw, neu ryw ddiod feddwol arall, gan y tybid

yn gyffredin y pryd hwnw fod buddioldeb mawr ynddi. Yr

  1. Methodistiaeth Cymru