Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/428

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn berchen tir ei hun yn mhen uchaf y plwyf, fod y plwyfolion wedi cael eu sarhau, a chynygiodd dir i'r Ymneillduwyr i adeiladu capel arno. Y cynygiad hwn a dderbyniwyd gan yr Annibynwyr, ac adeiladasant gapel yn Rhydymain, yr hwn oedd y capel cyntaf gan unrhyw enwad yn y plwyf. Adeiladwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1788. Pum' mlynedd yn flaenorol, fel y gwelwyd, y traddodwyd y bregeth gyntaf gan y Methodistiaid yn Llanfachreth, ond yr oedd y naill beth a'r llall yn peri fod yr achos wedi cynyddu llawer erbyn hyn. Bu troad y clochydd o'i swydd am roddi ei dŷ yn agored i dderbyn pregethu ynddo, a dewisiad un arall yn ei le, yn foddion i ddieithrio y plwyfolion oddiwrth yr eglwys, ac i beri fod Ymneillduaeth yn enill nerth.

Yn amser y ffrwgwd uchod gyda'r clochydd, nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel yn y plwyf, ac ni chawsant yr un am dros bymtheng mlynedd wedi hyn. A mawr fu yr helynt cyn y caed y capel cyntaf yma o dan dô.

Y mae yn angenrheidiol hysbysu mai yr achos o'r helyntion blin, a'r erledigaeth chwerw a ddilynodd am flynyddau meithion oedd, fod boneddwr o fri yn byw o fewn oddeutu milldir o'r pentref, yr hwn oedd yn berchen yr oll o'r bron o'r plwyf, a'r plwyfolion i gyd, oddieithr ychydig eithriadau, yn dibynu arno am eu bywoliaeth. Yr oedd y boneddwr hwn yn elyn trwyadl i Ymneillduaeth, ac wedi gwneuthur diofryd y mynai gau allan bob enwad Ymneillduol am byth o'r plwyf. A thuag at wneyd hyny, yr oedd wedi penderfynu gwneuthur pob ymgais i sicrhau pob modfedd o dir yn y plwyf yn eiddo iddo ci hun. Modd bynag, yr oedd y tŷ yr addolai y Methodistiaid ynddo y pryd hwn yn eiddo gŵr arall, ond yr oedd wedi myned yn dŷ anghysurus, ac yn wael ei lun. Gan ei fod felly, daeth i fryd ei berchenog ei werthu. Meddyliai y boneddwr yn ddios ei brynu, er mwyn rhwystro i'r Methodistiaid ei gael. Pan ddeallwyd hyn, dygwyd yr achos i Gyfarfod Misol y sir, a phenderfynwyd yno ar unwaith ei brynu. Prynwyd ef drostynt gan un o'r enw