undeb, yr hwn sydd yn awr (1850) yn byw yn yr ardal, ai ni wnai y Methodistiaid ddim gwerthu y darn tir drachefn iddo ef. I hyn yr atebid bob amser, nad oedd obaith am hyny, oddieithr i'r gwr boneddig roddi darn arall o dir yn ei le, a hyny mewn llanerch gyfleus i drigolion yr ardal.
"Gan bwy," gofynai yntau, "y mae yr hawl i benderfynu yr achos hwn?"
"Nid yw yr hawl yn llaw yr un dyn unigol," oedd yr ateb.
Gofynai drachefn: "Ai nid yw Mr. Charles, neu Mr. Lloyd, o'r Bala, ddim yn ben arnynt?"
"Nac ydynt, ond y maent yn weinidogion o barch a dylanwad mawr yn y Cyfundeb."
"Pa fodd," gofynai y boneddwr drachefn, "y gallaf gael cynyg ar brynu y darn tir?"
"Mae gan y Methodistiaid, Syr R," ebe Lewis Williams, gyfarfod bob mis, yn rhyw fan neu gilydd yn y sir, yn yr hwn y penderfynir pob achos o'r fath"
"Pa fodd, ynte," ebe y boneddwr eilwaith, "y byddai oreu i mi wneyd cais at brynu y lle ?"
"Trwy anfon cenad, Syr R—, i'r Cyfarfod Misol."
Y genad a anfonwyd, sef John Dafydd, Dol-y-clochydd, yr
hwn oedd ŵr o denant iddo, ac yn aelod o'r Cyfarfod Misol.
Efe a osododd ei neges yn ffyddlawn o flaen y cwrdd misol,
ond y brodyr a gytunasant na werthent y tir, ond y newidient
ef am un arall a fyddai yn gyfleus i'r bobl, eithr yn mhellach
oddiwrth lan y plwyf, os mwy dewisol fyddai hyny gan y gŵr
boneddig. I'r cynyg hwn yr oedd y genad wedi ei ddysgu
eisoes i ateb, na wnai ei feistr ddim newidiad—mai ei farn
sefydlog ydoedd, nad oedd eisiau yr un capel yn y plwyf, ond
bod yr eglwys yn ddigon. Rhoddwyd ar Mr. Lloyd, o'r Bala,
i ysgrifenu llythyr at y gwr boneddig, i'w gyfarch yn barchus,
ac i hysbysu iddo benderfyniad y Cyfarfod Misol. Ni wnaeth
y boneddwr un cais ar ol hyn am brynu y lle. Rhoes rhyw rai
a fynent dduo y Methodistiaid y gair allan ei fod wedi cydsynio,