Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/432

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ol hyn, i wneuthur cyfnewid am le arall; ond y gwirionedd ydyw na fu dim o'r fath beth, eithr chwedl ddisail hollol ydoedd, wedi ei dyfeisio er mwyn cyfiawnhau y gŵr mawr, a difrio y crefyddwyr.

Aeth yr hen dy a brynasid yn rhy fychan, ac yn rhy adfeiliedig i ymgynull ynddo; ac yr oedd dirfawr angen am le gwell. Ond pa fodd y dechreuid adeiladu?—gan fod y gŵr boneddig yn penderfynu y cai pob un a wnai ddim tuag ato, neu a âi iddo i addoli ar ol ei godi, deimlo pwys ei ddialedd, os digwyddai fod mewn un modd yn dibynu ar y gŵr boneddig;—mawr oedd y benbleth yn y gymydogaeth, ac yn wir ymhlith y brodyr yn y Cyfarfod Misol. Ni fynent ar un cyfrif fod yn anffyddlawn i achos crefydd yn yr ardal hono, ar y naill law, a theimlent yn bryderus ar y llaw arall, rhag y byddent yn achlysuro colledion, a chyfyngder trwm, ar drueiniaid tyner eu cydwybodau, a fwynhaent eu bywoliaeth dan aden y gŵr boneddig. Bernid, pa fodd bynag, fod yn "rhaid ufuddhau i Ddnw yn fwy nag i ddynion," ac mai eu dyledswydd oedd ysgogi ymlaen, gan adael y canlyniadau i ddoeth ragluniaeth Duw.

Ymddangosodd rhwystr arall yn fuan. Pa le y ceid cerig i adeiladu y capel? Yr oedd gan y boneddwr, mae'n wir, gloddfa gyfleus, lle yr oedd digonedd i'w cael, ond ni cheid careg oddi yno, er gofyn yn ostyngedig. Yr oedd gŵr arall yn perchen tir yn y gymydogaeth, a cherig yn y tir, heb fod ymhell. Gofynwyd caniatad gan y gŵr hwn i godi cerig, a chydsyniodd yntau, ac mewn canlyniad codwyd llawer o gerig yn barod i'w cludo i'r lle priodol, ond trwy ddylanwad y barwnig gyda y perchenog, tynodd ei gydsyniad yn ol, ac ni cheid codi ychwaneg o gerig o'r gloddfa, na chludo y rhai a godasid eisoes.[1] Bellach yr oedd yn gyfyng iawn ar y bobl. Yr oedd yr hen dŷ yn ymollwng,

a'r gynulleidfa yn galw am le helaethach a gwell, ond nid oedd

  1. Yr oedd y cerig hyn i'w gweled, hyd yn ddiweddar, yn garnedd o gerig rhyddion ychydig uwchlaw capel y Ffrwd, fel prawf gweledig o wirionedd yr hanes rhyfedd.