Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/434

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan ddywedyd, "nis gallaf oddef pregethu mewn un tŷ y mae genyf fi un awdurdod arno." O'r tu arall, gofalodd rhagluniaeth am yr hen wr a'r hen wraig, trwy drefnu iddynt gael preswylfod mwy cyfleus ac agos i foddion gras. Ymhen amser, pa fodd bynag, llareiddiodd yr ystorm. Yn raddol y cymerodd hyn le, trwy i'r rhai oedd yn gwrthwynebu weled mai llaw yr Arglwydd oedd drechaf. Rhydd L. W. ddwy engraifft o'r modd y newidiodd meddwl y boneddwr yr ydym yn son am dano. Yr oedd dau frawd yn byw yn yr ardal, y rhai yr oedd y boneddwr yn hoff iawn o honynt. I un o'r ddau cynygiodd dyddyn mewn lle yn agos i'r pentref, os addawai rwystro ei wraig i fyned i gapel y llan, a rhoddi anifail neu gerbyd iddi, os ewyllysiai, i fyned i rywle arall i addoli. Dywedai y gŵr nas gallai rwystro ei wraig, gan fod ei hymlyniad gymaint wrth y capel, ac nis goddefai ei hiechyd iddi fyned i unlle arall. Wrth weled eu cymeriad gonest a diysgog, ildiodd y boneddwr. Y gŵr a'r wraig hyn oeddynt Edward a Jane Pugh, Caecrwth. Mewn amgylchiad arall, daethai achwyniad i glustiau Syr R fod hen wasanaethyddes iddo, o'r enw Mrs. Lewis, yr hon oedd yn byw mewn tŷ o'i eiddo yn Nolgellau, yn derbyn pregethwyr i'w thŷ. Galwodd yntau am dani ato—yr oedd ganddo barch mawr iddi, a hithau iddo yntau—a dywedodd os na byddai iddi beidio derbyn pregethu i'w thŷ, nas gallai ei goddef i aros ynddo. I'r hyn yr atebodd, nad oedd hyny ddim yn wir, ond ei bod hi yn cadw ei thy yn dy gweddi, a bod yn well ganddi heb yr un tŷ na thŷ heb weddi. Ar hyn, tewi a son a wnaeth. Trwy gyffelyb bethau, yn raddol, gadawodd lonydd iddynt, a gwaredodd Duw ei bobl a'i achos oddiwrth eu cyfyngderau.

Yr oedd y barwnig, meddir, yn foneddwr hynaws a charedig mewn llawer o bethau. Preswyliai yn ei wlad, ac ymysg ei denantiaid, a rhoddai waith i weithwyr tlodion, er mwyn iddynt gynal eu hunain a'u teuluoedd uwchlaw angen. Oni bai ei wrthwynebiad i Ymneillduaeth, buasai ei goffadwriaeth yn ei wlad yn llawer uwch. Dywedir hefyd nad oedd yn erbyn i'r