Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/436

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai pellaf a'u gilydd. Ac un daith Sabbath oedd yr holl ddosbarth y flwyddyn hono, sef Bontddu, Llanfachreth, a Dolgellau. Darlunia ef yr ardal fel lle hynod o anwaraidd ac annuwiol. Hen arferion ofer a gwag y wlad i'w cael yma yn eu rhwysg mwyaf. A byddai, ebe fe, son am drigolion plwyf Lanfachreth yn ymladd â'u gilydd, ac â phlwyfydd eraill. Nosweithiau llawen, chwareu cardiau, ymladd ceiliogod, cocyn saethu, dawnsio, pitchio, coetio, rafflo, y bel droed a'r chwareu bandi—dyma welodd L. W. pan aeth gyntaf i Lanfachreth, y flwyddyn gyntaf o'r ganrif bresenol. "Mi a glywais ddynion sydd yn cofio yn adrodd," ebe un arall o'r hen bregethwyr, "y byddai yn anhawdd gan lawer yn awr goelio gymaint o lanciau y cymoedd o amgylch Llanfachreth a ymgasglent at eu gilydd i'r glynoedd encil a dirgel ar y Sabbothau, i ymosod ac i ymroddi o ddifrif a'u holl egni i'r chwarëyddiaethau hyn." Ar y Sabbath y byddai y pethau hyn yn anterth eu nerth; plant a chanol oed, a hen bobl, yn ymdyru i ymddifyru ac ymorchestu ynddynt. Nid oedd, yn ol tystiolaeth L. W., y pregethu ynddo ei hun. wedi llwyddo eto i dori grym yr arferion hyn ond i raddau bychain. Yr ysgol ddyddiol, a'r Ysgol Sabbothol, ynghyda phregethu yr efengyl gyda'u gilydd a fu yn foddion yn raddol i'w rhoddi i lawr. Ni byddai y pregethu ar y Sabbath yn agos i gyson, am na ellid cael pregethwyr i lenwi hyny o deithiau oedd yn y sir, ac yn niffyg pregethu cyfarfod gweddi fyddai yn aml yn y daith yr oedd Llanfachreth yn rhan o honi. Defnyddiodd L. W., ynghyd â rhai crefyddwyr da eraill, lawer ffordd i roddi i lawr arferion llygredig yr oes, megis trwy gymell plant a phobl ieuainc i ddyfod i'r ysgol wythnosol a Sabbothol, rhoddi anogaethau mewn modd personol i roddi heibio arferion drwg, gan ddangos y niwed a'r perygl o honynt, rhoddi materion yn yr Ysgol Sul i chwilio am adnodau yn gwahardd y pechodau oeddynt amlwg yn y wlad, ac adrodd y rhai hyny yn gyhoeddus, nes y byddai y rhai euog yn cywilyddio, cynal cyfarfodydd gweddio yr un adeg ac yn yr un man