Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/437

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ag y byddai ieuenctyd gwylltion wedi trefnu eu cyfarfodydd pechadurus hwythau. Dygir tystiolaeth bendant hefyd i lwyddiant y Gymdeithas Ddirwestol, ar ei chychwyniad cyntaf, yn ychwanegol at y pethau uchod, fel yr hyn a fu yn foddion arbenig i ddileu arferion pechadurus y wlad.

Parhaodd yr arferiad o gyhoeddi hysbysiadau gwladol ac arwerthiadau yn y fynwent ar y Sabbath yma hyd yn lled ddiweddar. Y mae dynion cymharoi ieuainc yn cofio clywed y clochydd yn eu cyhoeddi tra yr elai y bobl allan o'r eglwys. Rhoddai orchymyn i'r gynulleidfa sefyll ar y fynwent, a dywedai yn swyddogol,—"Hois! fe berwyd i mi hysbysu i chwi fod rhyw ddyhiryn, neu ddyhirod, wedi tori i mewn i'r tŷ tatws, Nanau, a phwy bynag a ddaw a hysbysrwydd i Syr R. Vaughan a gaiff dâl da am ei waith." Dro arall, rhedai y clochydd allan yn gyntaf, gyda bod y gwasanaeth drosodd, a chan sefyll rhwng drws yr eglwys a phorth y fynwent, galwai ar y bobl i wrando, "Hois! fe berwyd i mi hysbysu i chwi fod oxiwn yn y fan a'r fan, ddydd Mercher nesaf; gwerthir yno y defaid, y gwartheg, y lloi, a'r moch, a'r ceffylau, a'r gêr hwsmonaeth,—a Duw a gadwo y Brenin!" O'r diwedd, pa fodd bynag, darfyddodd yr arferiad hwn hefyd, yn debyg i ymadawiad y gog yn mis Mehefin, heb yn wybod i neb pa bryd na pha fodd.

Gwnaed y weithred am y tir i adeiladu y capel cyntaf y bu cymaint o helynt yn ei gylch, Mai 12, 1804, a thalwyd am y tir £93. Yr oedd y capel yn hollol square, 8 lath o hyd ac 8 lath o led, ac yn hollol ddiaddurn; llawr pridd, ac ychydig o feinciau. Yn y gauaf arferid casglu brwyn, a'u taenu ar y llawr, er cynesrwydd i'r traed. Oddeutu 1848 estynwyd dwy lath arno un ffordd, a rhoddwyd seti ynddo, am y draul o tua £60. Yn fwy diweddar, prynwyd adeilad a wnaed yn gydiol â thy y capel, ac ar ol hyn bu dyled o £57 yn aros yn hir, heb neb yn gwneuthur dim osgo at ei thalu. O'r diwedd rhoddodd amaethwr cyfrifol yn yr ardal gynygiad i'r eglwys, y gwnai ef bob pedwar swllt ar ddeg a wnai hi yn bunt. Cymerwyd y cynyg-