Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/439

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddynt. Ond galwyd arnaf i Lanfachreth i fod yno am flwyddyn, i gadw ysgol Gymraeg a Saesneg (yr oeddwn wedi dechreu cyn hyn yn y modd hwn, er fy mod yn anfedrus iawn). Darfu i ryw bersonau fyned dan rwymau i mi am £5 y chwarter, a derbyniais hwynt. A bum yno ychydig yn ychwaneg ar ewyllys da. Ond yr oeddwn yn fy nheimlad i raddau mawr wedi colli ewyllys da preswylydd y berth, er pan oeddwn wedi ymadael o fod dan ofal Mr. Charles. Byddai dda genyf weled y Sabbath yn dyfod, oblegid byddai gradd o'r hen gysuron a'r dylanwad yn ac ar yr Ysgol Sabbothol. Mi a ymadewais o Lanfachreth, i fyned i le arall, ar alwad yn ol yr un drefn, a bum mewn amryw fanau am dymhorau yn ol y cytundeb a wneid. Yr oeddwn wedi dyfod i Ddolgellau yn ol y drefn hon, ac ar y pryd mi a briodais wraig, yr hon fu ac sydd yn ymgeledd gymwys i mi, ac nid yw yn rhyfyg i mi ddweyd, ac i achos yr Arglwydd yn Llanfachreth am lawer o flynyddau. Tros 20 mlynedd y bu yr achos yn ei gofal, mewn rhoi bwyd i bregethwyr &c.

Yr achlysur i mi fyned y waith hon i Lanfachreth oedd, fod ty y capel wedi myned heb un golwg i neb fyw ynddo, ac angenrheidrwydd mawr am rhyw un i dderbyn yr achos crefyddol. Trwy fod rhai cyfeillion yn gofyn a ddeuwn, darfu i mi a'm hanwyl wraig gydsynio i fyned. Ac i mi gadw ysgol ddyddiol, a chymeryd tal gymaint a geid am ddysgu y plant, a byw a'r hyny os gallem. Acthom yno y flwyddyn gyntaf ar yr amod i dalu £2 o rent am y tŷ, a chael y capel i gadw ysgol, a 4c. y pryd am fwyd y pregethwyr. Gwnaethom gyfrif ymhen y flwyddyn, ac yr oedd hyn yn dyfod yn £2 Ss. Oc. er nad oedd ond 4c. y pryd, oblegid yr oedd yr amser hwnw lawer o bregethwyr yn teithio. Darfu i ni lwfio yr wyth swllt, a dywedyd y cymerem ni y tŷ am fwyd y pregethwyr. Buom felly am dros 20 mlynedd. Gwelsom yn fuan na allasem ddim byw ar a gaem oddiwrth yr ysgol, ac aethom i ddechreu gwerthu blawd