Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/440

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nhŷ y capel, ac wedi hyny aethom i ddechreu gwerthu amryw bethau eraill."

Dengys ei eiriau ef ei hun y ffordd yr arweiniwyd ef i Lanfachreth, a'r cysylltiad a fu rhyngddo â'r achos wedi iddo fyned yno. Rhydd hanes yn mhellach am drafodaeth fu rhyngddo a'r Cyfarfod Misol, a'r cytundeb a wnaed o'r ddeutu iddo gael adeiladu tŷ bychan o'r tu cefn i dŷ y capel, ac adeiladau eraill, y rhai gostiodd iddo dros £100. Yn ddilynol, drachefn, adeil- adodd dŷ a shop trwy y draul o £300., ac ebe yr hen bererin, "llafuriasom yn galed i gael bod ynddi-ddyled." Yn y rhestr o enwau llefarwyr yn ei bapurau, dros y rhai y telid iddo 4c. y pryd am fwyd, yn nhŷ y capel, heblaw y rhai oedd yn byw yn Sir Feirionydd, ceir enwau enwogion, megis, Cadwaladr Owen, Morgan Howells, a Henry Rees. Un bregeth a geid y Sabbath yn ddieithriad, ond chwyddai y pregethu teithiol nifer y pregethau mewn blwyddyn yn lled fawr. Pregethai ef ei hun yn y daith yn fynych, ond ni byddai yr un flyrling i lawr ar gyfer bwyd y pregethwr y Sul hwnw. Yn yr un llyfr ceir crybwyllion am amryw daliadau, ac arian a roddasai yn fenthyg, ac unwaith, "treth y brenin 10c." Yr amser yr oedd ef yn nghyflawnder ei nerth, yr oedd achos y Methodistiaid yn fwy blodeuog yn Llanfachreth nag unlle yn y cylchoedd, oddieithr Dolgellau yn unig. Yn y cyfnod cyn ei fynediad ef yno, bu y cyfeillion mewn mawr drafferth yn cario pethau ymlaen, oblegid y bygythion parhaus a chwythid o'r palas gerllaw. Diwygiadau crefyddol, meddir, ac yn enwedig y diwygiad yn 1817-18, a barodd i bobl yr Arglwydd orchfygu y stormydd enbyd a ymosodent arnynt. Yn y diwygiad crybwylledig llithrai y bobl i'r capel, a'u plant hefyd, er gwaethaf pob rhybuddion i'r gwrthwyneb. Erioed yn un man ni wiriwyd y ddiareb yn well, "trech gwlad nag Arglwydd." Yn hytrach, Arglwydd yr holl ddaear oedd yma yn gwneuthur pethau mawrion trwy ei bobl. Anhawdd ydyw traethu yr holl waith a wnaeth L. W. yn ystod y 38 mlynedd y bu yn byw yn Llanfachreth. Yn 1825