Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/442

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru dywedir, "Y gallu crefyddol mwyaf yn Llanfachreth y dyddiau hyny oedd y Methodistiaid. Yr oedd ganddynt Ysgol Sabbothol boblogaidd ac enwog, ac mae yn ymddangos mai o Ysgol Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd y torodd y blaguryn Annibynol allan gyntaf." Mae hynyna yn gywir. Dywedir yn mhellach, fod yno amryw bersonau yn gogwyddo at y golygiadau a elwid y system newydd, y rhai a ddiystyrid gan awdurdodau yr ysgol, a bod hen flaenor wedi codi ar ei draed un Sabbath, a chyhoeddi yn awdurdodol, nad oedd yr un athrawiaeth i gael ei dysgu yn eu hysgol hwy heb gytuno â'r hyn a gyhoeddid o'r pulpud, ac mai dyna fu yr achos i'r encilwyr adael y Methodistiaid. Nid ydyw hynyna yn gywir yn ol tystiolaeth bendant rhai oeddynt yn aelodau o'r ysgol ar y pryd. Yr achos neu yr achlysur oedd hyn. Yr oedd dosbarth o feibion yn perthyn i'r Ysgol Sul, y rhai a ystyrient eu hunain yn dipyn o ddynion, wedi colli eu hathraw, a hawlient gael rhyw berson penodol o'u dewisiad eu hunain (sef Mr. John Jones, yn awr blaenor eglwys y Methodistiaid yn Rhydymain) yn athraw arnynt. Anfonasant eu cais i'r cyfarfod athrawon am ei gael. Ond nid ystyriai y cyfarfod athrawon yn briodol i Mr. John Jones fod yn athraw arnynt. Ffromasant lwythau, ac mewn canlyniad aethant i gynal ysgol i le a elwid Caetanglwys, ac o dipyn i beth ymffurfiasant yn achos. Ymddengys yr hanes hwn yn fwy tebyg i gywir ar y wyneb; heblaw hyny, y mae tystiolaethau ddigon i'w gadarnhau. Ond nid ydyw y naill hanes na'r llall yn adlewyrchu llawer o glod ar yr encilwyr. Ychydig sydd o hanes ar gael am y rhai fuont ffyddlon a dewr gyda'r achos yma. Yr oedd Lewis Evans, Caeglas, yn un o honynt. Nid ymddengys ei fod ef yn flaenor. Ond teilynga dwy weithred o'i eiddo gael eu cofio. Efe ddaeth a'r Ysgol Sul yma yn y flwyddyn 1800. Efe a brynodd le i adeiladu y capel cyntaf, ac a wrthododd elw anghyfiawnder, er mwyn ei sicrhau i'r Methodistiaid. Y Blaenoriaid:—

John Dafydd, Dolyclochydd, oedd y cyntaf. Bu iddo yn-