Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/443

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tau law yn sicrhau y tir i adeiladu. Er ei fod yn denant i'r tirfeddianwr mawr a geisiai lethu yr achos, safodd ei dir yn wrol dros y gwirionedd. Anfonwyd ef yn genad dros ei feistr i'r Cyfarfod Misol, ac ymddygodd yn onest tuagat y ddwy ochr. Ystyrid ef ar y blaen gyda'r achos tra fu byw. Cafodd fyw i fyned yn hen, a bu yn ffyddlon hyd y diwedd.

Edward Thomas. Daeth allan yn un o'r rhai cyntaf i bleidio yr Ysgol Sul. Gwnaeth lawer i'w chynorthwyo yn y canghenau a'r cymoedd o amgylch. Yr oedd ef yn uwch na llawer o ran ei ddeall a'i allu; yr oedd hefyd yn siaradwr da, ac oblegid hyny yr oedd yn ddywediad gan bobl y lle, "Edward Thomas ar ei draed, a Robert Griffith ar ei liniau."

Sion Robert, yr Hendre. Gŵr tawel, boddlongar, heddychlawn. Bu raid iddo symud i fyw oddiwrth ymyl y llan, oherwydd fod perthynas iddo yn dal tyddyn o dan y tirfeddianwr gwrthwynebol i'r Methodistiaid, a symudodd i fyny y Cwm, sef i'r Hendre. Cadwodd ef a'i deulu gartref i Fethodistiaeth yno dros amser maith. Bu yn flaenor am 50 mlynedd, a bu farw yn 1863.

William Griffith, Dolchadda. Gŵr duwiol a ffyddlon oedd yntau. Yn niwedd ei oes yr oedd wedi colli ei olwg Er hyny deuai i'r Ysgol Sul, ac ychwaneg, bu yn athraw ynddi, ac arferai holwyddori hyd y diwedd.

William Griffith, Caecrwth. Daeth ef yma o ardal Cwm Cynfal, Ffestiniog. Yr oedd yn amaethwr cyfrifol, ac yn ŵr pwysig ar lawer cyfrif; tueddai yn ol dull yr hen bobl i fod yn drwm wrth ddisgyblu. Bu farw Mawrth 17, 1862, yn 65 oed.

Robert Griffith, Caeglas, a Griffith Pugh, Tanyfoel. Gwasanaethodd y ddau swydd diacon yn dda; ceir hanes y blaenaf ynglyn â Carmel, a'r olaf ynglyn â Bryncrug.

John Pugh, Glasdir, a Rees Pugh, Tyddynbach, oeddynt ddau frawd, ac yn ddiaconiaid yr eglwys. John Pugh yn gymeriad gloew ar hyd ei oes, yn ddyn duwiol, ac yn tueddu at fod yn addfwyn fel swyddog. Bu farw Awst 28, 1864, yn 59 oed.