Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/444

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rees Pugh yn ddiweddar yn dyfod at grefydd, ond troes allan yn ddyn rhagorol o dda. Dywedai ei brofiad yn y Cyfarfod Misol olaf cyn ei farw gydag arddeliad neillduol. Bu farw Gorphenaf 24, 1869.

Robert Jones, Galltcarw, a fu yn y swydd o flaenor am ychydig, ond bu farw yn ieuanc. Ceir coffadwriaeth am dano yn y Drysorfa 1870, tu dal. 115.

Dyna y rhestr o'r swyddogion fel y rhoddwyd gwybodaeth i'r ysgrifenydd am danynt. Heblaw ffyddloniaid eraill, bu Evan Richard yn flaenllaw gyda'r achos yma am hir flynyddau, ac a fu farw yn ddiweddar yn llawn o ddyddiau. Richard Williams hefyd, y gŵr oedd yn byw yn y Shop ar ol L. W., a fu yn weithgar iawn gyda'r achos, a'i briod, a'u plant a ddangosasant lawer o garedigrwydd trwy letya pregethwyr yn eu tŷ.

Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. Griffith Evans, Humphrey Jones, Griffith Griffiths, Daniel Williams, William Owen. Bu y Parchn. Owen Roberts mewn cysylltiad gweinidogaethol â'r eglwys o 1870 i 1875; W. Lloyd Griffith 1877—82; John Evans 1885—87.

Y PARCH. OWEN ROBERTS

Llanwodd ef le pwysig yn y cylch yr oedd yn troi ynddo, a theg ydyw rhoddi coffadwriaeth lled helaeth am dano. Ganwyd ef yn Pantypiod, ger Llanfachreth, Medi 8fed, 1830. Dygwyd ef i fyny yn yr alwedigaeth o of, yr hon alwedigaeth a ddilynai ei dad a'i daid o'i flaen. Ysgrifenodd ei hun ychydig o'i hanes ar ddarnau o bapurau yma ac acw. Fel hyn y dywed am ei argraffiadau crefyddol cyntaf:—"Nid oedd fy rhieni yn proffesu crefydd, ond yn wrandawyr cyson ar y Methodistiaid. Er hyny, arferwn i fyned i'r sociely er yn blentyn, a gallaf dystio fod argraffiadau crefyddol ar fy meddwl er yn dra ieuanc, a pharhau i fyned a ddarfu i mi hyd yn 12eg oed. Y pryd hwn dechreuais fyned yn fwy esgeulus o'r gyfeillach grefyddol,