Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/445

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan ddilyn rhai o'm cyfoedion nad oedd fynent ddim â chrefydd. Eto byddwn ar adegau yn teimlo yn hynod o anesmwyth, ac yn bwriadu tori pob cysylltiad â fy nghyfoedion digrefydd. Pan oddeutu 15eg oed, cefais fy nal gan ddychryn mawr; teimlais fy mod yn bechadur colledig. Yr oedd y weinidogaeth yn fy ysgwyd, fel yr oeddwn yn colli blas ar ddilyn fy nghyfoedion gwylltion, ac yn addunedu cynyg fy hunan i'r society yn ol, ond yn methu am gryn amser a chyflawni. Ond ryw nos Sabbath, mewn cyfarfod gweddi yr oedd un brawd yn gweddio dros y rhai oedd yn cloffi rhwng dau feddwl. 'Arglwydd mawr, meddai, 'tor y ddadl heno'. Teimlais fy hunan fel yn derbyn rhyw ollyngdod, a phenderfynais gynyg fy hun i'r Arglwydd, ac i'w bobl, a'r society ganlynol ceisiais am le yn yr eglwys. Cefais bob ymgeledd gan y frawdoliaeth. Derbyniwyd fi yn gyflawn aelod, ac anogwyd fi i geisio codi y ddyledswydd deuluaidd gartref, a chaniatawyd hyn i mi gan fy rhieni."

Eto, am yr amser y dechreuodd bregethu, a'r modd y dechreuodd, Byddai brodyr o Lanfachreth, y pryd hwnw, yn myned ar nos Sabbothau i'r gymydogaeth lle mae capel Hermon yn awr, i gadw cyfarfodydd gweddiau. A byddwn weithiau yn cael fy nghymell gan y blaenor a fyddai yn fwyaf mynych yn dyfod gyda mi, i ddarllen penod ac i wneuthur ychydig sylwadau wrth fyned ymlaen. Gwnawn felly rai gweithiau, a byddai yn dyfod yn weddol ambell waith, ac yn eithaf tywyll bryd arall. Yn y cyfnod yma bu farw fy nhad (Ebrill 12, 1848), a chan mai fi oedd yr hynaf syrthiodd gofal y business arnaf yn fwy. Ond trwy fod yr hen dad duwiol Lewis William mor gynes yn fy nghymell i ddal ymlaen, parhau a ddarfu i mi, ac felly rhyw lithro yn bregethwr heb, wybod yn iawn fy mod yn myned." Ysgrifena drachefn ar ddalen arall: Myfi, Owen Roberts, a ddechreuais ar y gwaith mawr a phwysig o gynghori, yn mis Gorphenaf 1848, yn fy 18fed flwyddyn o fy oedran, yn nghapel Llanfachreth, trwy gym-