Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/446

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

helliad William Griffith, o'r Caecrwth, ffarmwr a blaenor perthynol i'r capel uchod."

Y pryd hwn gwnaeth gyfamod i ymgysegru, gorff ac enaid, yn llwyr ac am byth, i wasanaeth yr Arglwydd, ac ysgrifenodd y cyfamod mewn llyfr. Aeth i Athrofa y Bala ddiwedd haf 1852. Ond ni chafodd fod yno ond dwy flynedd. Gan fod ei dad a'i fam wedi marw, disgynodd gofal cartref yn gwbl arno ef. Digalonodd hyn ef yn fawr; anmharodd ei iechyd fel nas gallai bregethu gyda dim cysondeb am flynyddau, a bu fwy nag unwaith yn meddwl taflu pob peth i fyny. Ar ol y Diwygiad, pa fodd bynag, cymerodd cyfnewidiad le yn ei ysbryd, ac yn ei amgylchiadau tymhorol gyda hyny. Cymerodd dyddyn i'w amaethu, a gadawodd y gwaith gof. Chwefror 5ed, 1864, ymbriododd â Miss Jane Isaac, Gwyddelwern. Wedi hyn ymroddodd i waith y weinidogaeth. Ymhen oddeutu pum' mlynedd bu dau o'i blant farw o fewn pythefnos i'w gilydd, ac ebe fe ei hun, "Effeithiodd yr amgylchiad yn ddirfawr arnaf. Effeithiodd ar fy nghorff Ond y mae yn dda iawn genyf ddywedyd iddo effeithio yn dda ar fy ysbryd. Yr wyf yn gallu edrych i lanerch y brofedigaeth fel llanerch y fendith. Cefais afael mewn adnodau o'r Beibl y pryd hyny sydd yn aros gyda mi hyd heddyw, ac yn rhoddi llawer o gysur i'm meddwl. Dyma un o honynt, 'Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. Esaiah xlviii. 17'."

Oddeutu 1869, galwyd arno i fugeilio eglwysi Abergeirw a Hermon, ac yn ddilynol Llanfachreth hefyd. Hydref 1870, safodd yr Arholiad Cymdeithasfaol, a Gorphenaf 1872, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Effeithiodd hyn arno drachefn i beri iddo fod yn fwy ymroddedig i'r gwaith. Bellach," meddai, "nid oes genyf ond ymgais at ymgysegru yn fwy llwyr i'r gwaith mawr."

Dengys y dyfyniadau uchod o'i hanes ganddo ef ei hun ei