Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/447

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn "Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll." Treuliodd ei oes heb ddyfod yn gyhoeddus iawn, yr un pryd, yr oedd yn oes dra defnyddiol. Gwendid corfforol, anystwythder naturiol ei lais, a'r amgylchiadau a'u rhwystrodd i lwyr ymroddiad yn nechreu ei oes, ynghyd â thuedd reddfol ei natur i ymgadw o'r golwg, a fu yn atalfa iddo ddyfod yn adnabyddus mewn cylchoedd eangach. Bu yn un o'r dynion mwyaf gwasanaethgar yn ei wlad ei hun, fel gwladwr a chymwynaswr. Gwnaeth lawer o wasanaeth i'w gymydogion fel meddyg anifeiliaid, fel cynghorwr mewn amgylchiadau dyrus, &c. Os byddai eisiau rhyw gyfarwyddyd, yn wladol neu eglwysig, yn holl gylchoedd ei ardal, ato ef yr elid i ymofyn am dano. Trwy y pethau hyn a'u cyffelyb, yr oedd wedi cael gafael gref yn serch ei gydwladwyr. Llafuriodd lawer ynghylch dosbarth y Cyfarfod Ysgolion. Nid aeth trwy ei oes, mae'n wir, heb i rai ei wrthwynebu yn Llanfachreth; eto, . yr oedd ei gymeradwyaeth yn uchel yn yr eglwysi oedd dan ei ofal, yn neillduol y ddwy eglwys uwchaf yn y cwm, pa rai a wasanaethodd yn ganmoladwy o ffyddlon, yn Sabbothol ac wythnosol, trwy dywydd garw ac ystormydd, haf a gauaf.

Cychwynodd i'w daith, am y tro olaf i Harlech, ddydd Sadwrn, erbyn Sabbath Tachwedd 28ain, 1875. Pregethodd foreu Sabbath oddiar Exodus xiii. 17, 18. Dywedai un o flaenoriaid Harlech mewn llythyr yn fuan ar ol hyn, "Yr oedd rhyw eneiniad dwyfol, amlwg, yr yr odfa hon o'i dechreu i'w diwedd-dyna oedd tystiolaeth amryw oedd yn bresenol. Nid anghofiaf yr argraff a wnaeth byth." Pregethodd drachefn yn Llanfair am ddau, ond methodd y nos. Symudodd cyn diwedd yr wythnos i Ddolgellau, i dŷ ei chwaer, lle y bu farw. Yr oedd yn dawel a hyderus yn ei gystudd, a phan y gofynodd ei briod a oedd ganddo ddim i'w ddweyd, cyfeiriai A'i fys a dywedai, Edrychwch i fyny." Yr oedd ei gladdedigaeth yn anarferol o liosog; yr holl wlad o amgylch ei gartref wedi dyfod i wneuthur arwyl mawr am dano. Yn ymyl capel