Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/448

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llanfachreth, a cherllaw cofgolofn y ffyddlon Lewis William, y mae cofadail wedi ei chyfodi ar ei feddrod yntau, ac yn gerfiedig arni:—

Er côf am

Y Parch. Owen Roberts, Tyisaf,

o'r lle hwn. Bu farw Rhagfyr 9fed, 1875,

Yn 45 mlwydd oed.

Bu yn weinidog ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd o'r

19eg flwyddyn o'i oedran hyd ei farwolaeth. Yr oedd hefyd

yn wladwr a chymwynaswr rhagorol.

Y gofadail hon a gyfodwyd gan ei edmygwyr.[1]


Y PARCH. LEWIS WILLIAMS.

Y mae ei enw ef wedi ei grybwyll drachefn a thrachefn mewn cysylltiad â chrefydd yn y rhan hon o'r Sir, ond teilynga yn fwy na neb gael sylw helaethach na chrybwyll ei enw. Nid oes yr un dyn y mae yr eglwysi, yr ysgrifenwyd eu hanes yn y gyfrol hon, o dan fwy o deyrnged i barchu ei goffadwriaeth. Da y gwnaeth Ysgolion Sabbothol dosbarth Dolgellau yn rhoddi enw Lewis Williams ochr yn ochr âg enw Mr. Charles, ar eu baner flaenaf, yn Ngwyl Canmlwyddiant 1885. Cyfiawn haeddai gael bod yr agosaf i'r cymwynaswr byd-enwog o'r Bala. Mewn zel angerddol i wneuthur daioni, llafur diorphwys, ffyddlondeb diarebol, saif ar flaen rhestr dyngarwyr ei wlad, ac eglwysi y Methodistiaid yn Sir Feirionydd sydd yn mwynhau o ffrwyth ei lafur. Cafwyd y crynhodeb a roddir yma yn ei ysgrifau ef ei hun, ac yn y byr—hanes a ysgrifenodd Mr. R. O. Rees, yr hwn a ddywed am dano,—"Dyn bychan oedd Lewis Williams ymhob ystyr naturiol—bychan ei gorph, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau. Ond pob gïeuyn a gewyn yn ei

gorff bychan, a phob cyneddf a dawn yn ei enaid llai, yn eu

  1. Cafwyd cynorthwy gyda'r byr goflant hwn oddiwrth y Parch. J. Eiddon Jones, Llanrug.