Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/449

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llawn waith yn wastadol mewn rhyw lwybr neu gilydd yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i Dduw."

Ganwyd ef yn Mhennal, yn 1774, mewn lle a elwid Gwastadgoed. Nid oes gareg ar gareg o'r tŷ hwn yn aros er's llawer blwyddyn. Y mae capel presenol y Bryniau wedi ei adeiladu yn nghwr y cae, ac o fewn ychydig latheni i'r lle y safai. Enw ei dad oedd William Jones, a'i fam Susan Jones. Pan oedd yn ddwy flwydd oed, symudodd ei rieni i'r Hendy, yn agos i'r Henfelin, Aberdyfi, ac ymhen y flwyddyn symudasant i'r Hafod, oddeutu tair milldir i Dowyn. Bu farw ei dad pan oedd yn 4 oed, a gadawyd ef a'r plant eraill gyda'u mam weddw. Rhydd L. W. ddarluniad o ddull y wlad o fyw pan yr oedd yn blentyn, ac o'r modd yr oedd ei fam yn llafurio i fagu ei phlant. "Byddai yn gwneyd cymwynasau i'r cymydogion," meddai, "ac yn cael ei thalu yn bur dda, a phan elai yn gyfyng iawn, anfonai ei chwyn at y plwyf, sef Dolgellau, ac nid wyf yn gwybod iddi gael ei gomedd erioed o'r hyn a geisiai. Ni bu yn cael dim yn benodol o'r plwyf, ond byddai yn cael rhoi ei hachos yn eglwys Dolgellau i geinioca iddi. Byddai yn cael cymaint a 10s., ac o hyny i 15s. lawer tro mewn modd o ewyllys da." Pan oedd yn 16eg oed ymunodd â "Milisia Sir Feirionydd, yn amser rhyfel Boneparte." Wedi ei ryddhau am dymor oddiwrth y rhwymedigaeth hon, a dychwelyd adref, prentisiwyd ef yn grydd, gydag un John Jones, o'r Cemaes, Sir Drefaldwyn.

Tra yr oedd yn Cemaes y pryd hwn, yn llanc tua 18 oed, yr argyhoeddwyd ef, ac y bwriodd ei goelbren ymysg pobl yr Arglwydd. Teimlai awydd i ymuno â chrefydd, ond ofni a chilio yn ol y byddai. "Bum lawer tro wrth ddrws yr addoldy, yn benderfynol o fyned i'r cydgynulliad, ond yn methu myned, ac yn troi yn fy ol tua chartref." Mewn cyfarfod gweddi yn y Ty Uchaf, Mallwyd, ar fore Sabbath, digwyddai fod yn gwrando ar Mr. Jones, Mathafarn, wedi hyny Dolfonddu, yn darllen Rhuf. v., ac yn esbonio rhanau o honi. Pan y darllenai y gŵr y geiriau, felly, gan hyny, megis trwy gamwedd un y