Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ganddo ddeuddeg, meddir, o eglwysi wedi eu sefydlu, chwech yn ei sir ei hun a chwech mewn siroedd eraill. Elai o amgylch i ymweled â'r rhai hyn ar gylch bob tri mis. Wedi dychwelyd adref cychwynai drachefn, ac yn ei waith apostolaidd, dioddefodd yn y modd hwn galedi mawr, a dangosodd ffyddlondeb tuhwnt i'r cyffredin.

Yr oedd yn ŵr duwiol, ac o ysbryd llonydd a heddychlon, a thrwy hyny cafodd lonydd i fesur mawr, oddiwrth erledigaeth yr amseroedd. Daeth Is-sirydd Meirionydd i'w dy un adeg, yn amser Charles II., a gwarant i'w ddal am bregethu yr efengyl. Cydsyniodd yntau yn rhwydd i fyned gyda'r swyddog, ond gofynodd am ganiatad i weddio unwaith gyda'i deulu cyn en gadael. Caniatawyd ei gais, ac erbyn iddo orphen ei weddi, yr oedd y swyddog mewn ofn; nid oedd ganddo wroldeb i fyned ag ef ymaith, a gadawodd ef yn wr rhydd. Adroddir hefyd iddo gael ei garcharu unwaith yn y Castell Coch, gan Arglwydd Powys. Enillodd gymeradwyaeth yno yn bur fuan. Gwrandawodd ceidwad y carchar ef yn gweddio, a'i dystiolaeth am dano oedd, "Diau Cristion da yw y dyn." Wrth ei ryddhau, mynodd Arglwydd Powys ganddo ddyfod yno bob Nadolig i edrych am dano.

Y mae yn rhaid fod cariad y gŵr hwn at y Gwaredwr yn fawr, a'i ymroddiad i'w wasanaethu yr esiampl oreu o ddyn yn byw er lles llaweroedd. Yn ol pob tebyg, gallasai fyw mewn tawelwch a hapusrwydd gyda'i deulu yn Bronclydwr. Yn lle hyny, aeth trwy galedi dirfawr, gan ei fod yn teithio nos a dydd, ar rew ac eira, gwlawogydd a stormydd mawrion, a'i lety yn dlawd, a'i ymborth yn wael. Byw y byddai ar laeth a bara, a chysgu ar wely o wellt. Adroddir y ddau hanesyn canlynol am dano, y rhai a ddangosant y modd yr elai trwy enbydrwydd mawr, ac fel y cyfryngai Rhagluniaeth yn rhyfedd ar ei ran: "Un tro, wrth ddychwelyd adref ar noswaith dywyll iawn, fe gollodd ei ffordd, ac a wybu ei fod mewn lle peryglus. Yn ei drallod mawr, fe ddisgynodd oddiar ei geffyl,