Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/450

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

daeth barn ar bob dyn i gondemniad," cafodd olwg yn y fan arno ei hun fel un colledig. Syrthiodd i lewyg, a chariwyd ef allan fel un marw. Ond wedi dyfod ato ei hun, a dywedyd pwy oedd, a pha beth oedd yr achos o'i lewyg, dangosodd y cyfeillion garedigrwydd mawr iddo. Aeth erbyn 2 o'r gloch i wrando pregeth i Mathafarn. Y geiriau fu'n foddion i beri iddi oleuo arno oeddynt, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai y penaf ydwyf fi." "Dyma y dydd yr agorwyd fy llygaid i weled fy ngholledigaeth, ond diolch byth! i weled Ceidwad hefyd, ac o hyny hyd yn awr nid wyf wedi colli fy ngolwg ar y naill na'r llall yn gyffredin, ond ei bod yn fwy neu lai eglur ar rai prydiau na'u gilydd." Ymhen tuag wythnos wedi hyn, penderfynodd gynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid a ymgynullai mewn tŷ anedd yn Nghwmllinau. Yr oedd ganddo haner coron yn ei feddiant, a llawn fwriadai roddi hwnw am gael myned i'r seiat, gan addaw ychwaneg rhagllaw yn ol yr hyn a allai.

"Ar nos y society aeth at ddrws y ffermdy lle y cyfarfyddid. Safai am ysbaid yno mewn cyfyng-gyngor. Anturiai o'r diwedd daro y drws â llaw grynedig. Wele frawd yn agoryd, Beth sy' arnat ti eisio yma, machgen i?' 'Eisio dwad i'r seiat, os ca'i; dyma i ch'i haner coron—y cwbl sy' gen'i yn y byd—am ddwad, os ca'i? 'Dwad, 'machgen anwyl i, cei; cadw dy haner coron; cei groeso calon gyda ni am ddim?

Gofynwyd iddo yn y cyfarfod, 'Beth pe bai Iesu Grist yn ceisio gen' ti wneyd rhywbeth drosto yn y byd, a wnaet ti hyny?'

O! gwnawn yn y fan, beth bynag a geisiai Iesu Grist gen' i.'

Rees Lumley, Dolcorslwyn, oedd y gwr a ofynodd hyn iddo, ac ymddengys ei fod wedi gofyn y cwestiwn ddwy neu dair gwaith mewn gwahanol ffyrdd. Teimlai yntau ar hyd ei oes fod rhwymau arno i wneuthur yr hyn a allai gyda chrefydd,