Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/452

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rwydd gyda'r rhanau ysbrydol, a barai ei fod yn ofalwr heb ei ail.

Yn y flwyddyn 1807 y dechreuodd L. W. bregethu, cyn belled ag y gallai ef ei hun wybod, ac yn 1815 derbyniwyd ef gan y Cyfarfod Misol yn bregethwr rheolaidd. Pregethwr diarebol fychan oedd yn nghyfrif ei gydoeswyr, a chan lawer ystyrid ef yn llai "na'r lleiaf." Cafodd, er hyny, rai odfeuon grymus, a bu ei weinidogaeth yn foddion i beri i aml un droi oddiwrth ei bechodau at yr Arglwydd. Ond fel un yn gwir ofalu am achos crefydd y rhagorodd ef yn ngwinllan yr Iesu. Cylch arbenig ei ddefnyddioldeb oedd yr Ysgol Sabbothol. Parhaodd trwy gydol ei oes i wneuthur rhywbeth gyda y rhan yma o'r winllan dilyn cyfarfodydd daufisol, ymweled â'r ysgolion, trefnu "pynciau," cynal Cymanfaoedd. Llwybr y gwnaeth lawer o ddaioni ynddo yn nechreu ei oes ydoedd fel llyfrwerthwr. Bu yn foddion i ddosbarthu llawer o lyfrau crefyddol, trwy gylch y wlad y symudai ynddi, pan nad oedd yr un llyfrwerthwr na'r un dosbarthwr i'w gael yn yr holl gyffiniau. Trwy ei offerynoliaeth ef, yn nyddiau Mr. Charles, y lledaenwyd y Drysorfa Ysbrydol, y Geiriadur, yr Hyfforddwr &c. Yr oedd ganddo law yn un o'r casgliadau cyntaf at y Feibl Gymdeithas yn yr ardaloedd hyn yn 1805, ac y mae enwau a thanysgrifiadau a wnaed yr adeg hon i'w cael ymysg ei ysgrifau. Rai blynyddau cyn diwedd ei oes llwyr gollasai ei olwg, eto elai o amgylch o dŷ i dŷ, i gasglu tuagat y Feibl Gymdeithas, yn hen ŵr dros ei 80 oed. Ymrestrodd yn un o'r rhai cyntaf o dan faner Dirwest yn 1836. Pa gymdeithas bynag a sefydlid, a pha symudiad bynag a roddid ar droed er llesoli y wlad, byddai ef y cyntaf un i'w bleidio. Bu farw Awst 14eg, 1862, yn 88 mlwydd oed. Gosodwyd cof-golofn ar ei fedd trwy gasgliadau cyffredinol yn holl Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau, ac fel y gweddai iddi fod, y hi yw y gof-golofn uwchaf yn Llanfachreth. A ganlyn yw ei anerch ymadawol, a sibrydodd yn nghlust Mr. R. O. Rees un o'r