Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/453

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Sabbothau olaf cyn ei ymadawiad, i'w gyflwyno i Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth, a gynhelid yn y cyffiniau y Sabbath hwnw: "Cofiwch fi yn serchog iawn at y brodyr i gyd.— Dywedwch wrthyn nhw mai fy erfyniad olaf i am byth arnynt ydyw am i bawb weithio eu goreu gyda'r Ysgol Sul—perwch i bawb feddwl yn llawer iawn gwell—o Iesu Grist fel talwr. Dyma fi—rydw i wedi bod yn ceisio gwneyd rhyw 'chydig iawn—fel y gallwn i—yn ei wasanaeth am agos i 60 mlynedd —y talwr goreu 'rioed—arian parod bob amser a welais i— byddai'n rhoi rhyw deimlad i mi yn y fan—'y mod i'n ei blesio fo—Dallsai fo byth roi tâl gwell gen'i gael na hyny. —Dyma 'ngwasanaeth i yma ar ben—'does arno fo yr un ddimai o ddyled i mi——Beth bynag sy' geno fo i'w roi i mi eto yn y byd mawr yr ydw i'n myn'd iddo fo—gras!—gras!—gras! Yma gorchfygwyd ei lais gwan gan ei deimladau. Ni ychwanegodd air mwy at ei genadwri i mi, ond sibrwd ymlaen ynddo ei hun, 'Gras!—gras!—gras !—"' —gras!"

SION (Arthog)

Enw yr ardal hon ar y cyntaf mewn cysylltiad â'r Methodistiaid oedd "Ty Dafydd," oddiwrth enw y gŵr a roddodd ei dŷ i gynal yr achos ynddo. Cynhelid y moddion crefyddol cyntaf y mae dim hanes am danynt (heblaw y moddion a fu yn Pantphylip, yn amser Hugh Owen, Bronclydwr), mewn lle a elwir Capel Ellis. Adeilad yw hwn ar ochr y ffordd fawr, ychydig uwchlaw Arthog, i gyfeiriad Dolgellau, a ddefnyddid y ganrif ddiweddaf fel math o "Chapel of Ease" perthynol i'r Eglwys Wladol. Ond gan mai yn awr ac yn y man yn unig y byddai gwasanaeth ynddo, deuai rhai Methodistiaid o Ddolgellau, ac yn eu plith Hugh Lloyd, i gynorthwyo yr ychydig grefyddwyr yma mewn cynal cyfarfodydd gweddi, ac yn Capel Ellis y cynhelid hwy. Cedwid yr agoriad yn nhŷ Richard Lewis, Erwgoed. Un Sabbath, modd bynag, wedi i'r cyfeillion ddyfod i lawr o Ddolgellau, cawsant y lle wedi ei gloi, a'r meistr tir wedi rhoddi