Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/456

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones, a Griffith Davies, i fod yn feichiafon am £6 o gyflog yn y chwarter." Yr oedd yma hefyd yn nechreu 1812, pryd y gwnaed ymchwiliad manwl i ansawdd yr ardal, o berthynas i nifer y trigolion uwchlaw 7 oed a fedrai ddarllen, a'r nifer ni fedrai ddarllen &c. "Rhifedi holl bobl yr ardal 253; yn medru darllen 151; heb fedru darllen, 102; penau teuluoedd, 77; teuluoedd heb Feiblau ynddynt 20. Casglwyd at y Feibl Gymdeithas £6 15s. 8½c." Yna ceir enwau pump o bersonau fel tystion i gywirdeb y cyfrifon uchod.

Ar ol Dafydd Robert, y gŵr a roddodd ei dŷ i gynal y moddion ynddo, hysbysir am deulu arall a wnaeth wasanaeth mawr tuagat gychwyn a chynal yr achos yn y lle dros lawer o flynyddoedd, sef Richard Lewis, Erwgoed, a Jane Lewis, ei wraig. Yr oedd y rhai hyn yn daid a nain i'r Parchn. E. J. Evans, Llanbedr, ac R. Evans, Harlech. Treuliasant ill dau oes faith i wasanaethu crefydd yn ngwir ystyr y gair. Yn eu tŷ hwy bob amser yr arhosai y pregethwyr, a charient fwyd iddynt i dŷ y capel, pan yr elent at Lwyngwril. Canmolir Jane Lewis fel mam yn Israel ac un nodedig am ei duwioldeb. Un arall o'r chwiorydd hynod am ei chrefydd oedd Betty Dafydd, Ty'r capel. Byddai y ddwy hyn, yn nghyda chwiorydd eraill, ar un adeg, yn cynal cyfarfod gweddi merched. Bu gwedd isel ar yr achos yma ar wahanol amserau. Yr oedd felly, medd ein hysbysydd, yn flaenorol i 1840. Oddeulu y pryd hwnw y daeth y Parch. Evan Roberts i'r ardal o'r Abermaw, a gŵr o'r enw Evan Jones (yr hwn a weithiai yn ei wasanaeth fel crydd). Yr oedd yr olaf yn meddu llawer o gymwysderau at y gwaith, yn deall cerddoriaeth, ac yn athraw defnyddiol yn yr Ysgol Sul. Rhoddwyd ychydig o'i hanes ynglyn âg eglwys Maethlon. Daeth Ellis Jones hefyd yma o Lanelltyd oddeutu yr un adeg. Yr oedd y symudiadau hyn yn gaffaeliad mawr i'r achos yn Sion. Mr. Elias Pierce, 20 Palm Grove, Birkenhead, yr hwn sydd yn frodor o'r ardal hon, mewn nodiadau helaeth o'i adgofion am y lle pan oedd yn ieuanc, a ddywed:—