Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/458

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Lwyngwril at 2 gyda'r pregethwyr a ystyrem ni yn rhai enwog."

Heblaw y pesonau a nodwyd, yr oedd Edward Jones, joiner, tad Richard Jones, blaenor a'r dechreuwr canu presenol, yn flaenllaw gyda'r achos. David Lewis, Fegla Fawr, ac un o'r enw Richard Jones, a gymerent ran yn fynych yn y moddion cyhoeddus. Gŵr arall llawn mor flaenllaw â'r un o'r rhai a enwyd oedd John Pierce, tad Mr. Pierce, Birkenhead. Yn ychwanegol at ei dduwioldeb diamheuol, ystyrid ef y mwyaf galluog o'r holl frodyr. Yr oedd yn ddarllenwr ac yn fyfyriwr mawr ar hyd ei oes, a byddai bob amser ar y blaen gyda phob diwygiad. Arferai yn gyffredin esbonio y benod a ddarllenai yn y cyfarfod gweddi, ac yr oedd yn feddianol ar ddawn gweddi neillduol. Ceid ganddo hefyd sylwadau gwerthfawr yn y seiat. Dywedai Mr. Humphreys, Dyffryn, wrtho unwaith—"Yr wyt ti, John, ryw led llaw neu ddwy yn uwch Calfin na mi." A dywediad Lewis Morris oedd y dylasai ei enw fod yn John Calvin. Oherwydd rhyw anghydwelediad bu ef am ychydig amser gyda'r Bedyddwyr. Ac ar ol iddo ddychwelyd yn ol at y Methodistiaid dywedai Dafydd Rolant, y Bala, am dano, "Y mae pob peth oedd yn fai yn John Pierce wedi myned hefo'r dŵr tra bu gyda'r Bedyddwyr."

Pan ddechreuodd y brodyr y Bedyddwyr achos yn yr ardal hon a Llwyngwril, yr oedd cryn nifer yn eu canlyn ar y cychwyn. O leiaf, elai llawer i edrych ar y ddefod o drochi,' fel y gwelir yn gyffredin gydag unrhyw symudiad newydd mewn cymydogaeth. Un boreu Sabbath, yr oedd y pregethwr poblogaidd, Dafydd Rolant, y Bala, yn pregethu yma, pryd y gweinyddid yr ordinhad o fedydd yn gyhoeddus gan yr enwad crybwylledig, a'r bobl wedi myned i edrych ar y ddefod, yntau a ddywedai uwchben ei gynulleidfa fechan ei hun,— "Wel, 'does yma ddim ond y gwenith heddyw, mae yr ûs wedi myned i edrych ar y mân ûs yn myn'd hefo'r dŵr." Yn Llwyngwril y prydnhawn, drachefn, yr oedd y ddefod o drochi