Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac a weddiodd ar yr Arglwydd. Erbyn darfod y weddi, yr oedd yr wybr yn oleu uwchben; gwelai yntau ei ffordd yn eglur, a diangodd o'i berygl. Dro arall, wrth fyned i bregethu yn nyfnder gauaf, y nos a'i goddiweddodd, ystorm ddisymwth a gododd, a'r eiria a luchiodd i'w wyneb, fel na allai yr anifail oedd dano fyned rhagddo. Yn y cyfwng hwn, gadawodd i'r ceffyl fyned y ffordd a fynai, hyd oni ddeallodd ei fod mewn perygl gan ffosydd a mawnogydd. Nid oedd ganddo bellach ond galw yn lew ar Dduw, yr hwn ni throisai ei weddiau draw mewn cyffelyb amgylchiadau. Disgynodd oddiar ei farch, a cherddodd mewn eira dwfn hyd ganol nos, nes oedd oerni a lludded wedi dwys effeithio arno, ac iddo anobeithio bron yn llwyr am ei fywyd. Ond yn y cyfwng yma, trefnodd Rhagluniaeth iddo gyraedd at feudy; ond ar ei gais yn ceisio myned i fewn iddo, cafodd fod y drws wedi ei fario o'i fewn. Bu am awr neu ychwaneg yn ymgripio yn lluddedig, ac ymron wedi fferu, o amgylch yr adeilad, heb allu cael un fynedfa i mewn. Ond o'r diwedd, wedi llawn ddiffygio, cafodd dwll yn nhalcen y beudy, a thrwy gryn orthrech, efe a ymwthiodd i mewn; ac yno y gorweddodd rhwng y gwartheg hyd doriad y dydd. Wedi ymlusgo allan, gwelai dŷ yn agos; ac aeth ato, a churodd wrth y drws. Erbyn i wr y ty gyfodi, ac agoryd iddo, efe a'i cafodd a'i wallt a'i farf wedi rhewi, ei ddwylaw yn ddideimlad gan fferdod, ei ddillad wedi sythu, ac yntau o'r braidd yn medru siarad. Gwnaed iddo dân da, rhoddwyd llaeth twymn iddo i'w yfed, a chafodd orwedd mewn gwely cynes. Mewn ychydig oriau, yr oedd wedi cwbl ddadebru, ac aeth y boregwaith hwnw i'r lle cyfarfod, a phregethodd fel arferol, heb deimlo nemawr niwaid." Nid yw yn hysbys ymha le y digwyddodd hyn—da iawn fuasai cael gwybodaeth am y lle—ond sicr ydyw iddo ef ei hun adrodd yr hanes wrth ei gydnabod; oblegid fe'i coffheir gan ei holl fywgraffwyr, ymhlith yr ychydig ffeithiau sydd ar gael o hanes ei fywyd. Ymddengys, hefyd, fod y gŵr da o Fronclydwr wrtho ei hunan yn