Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/460

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei farwolaeth. Efe oedd yr un a fyddai yn myned i'r cyfarfodydd eglwysig i ddarllen penod yn y dechreu cyn iddo ymuno â chrefydd. Efe, hefyd, oedd un o ychydig nifer a ymrwyment am gyflog yr ysgolfeistr yn amser L. W. Sonir hefyd am un Robert Morris wedi bod yn flaenor yma mewn adeg foreu.

John Lewis.—Efe a ystyrid y blaenor bron o ddechreu yr achos hyd ei farwolaeth. Bu yn llenwi y swydd am oddeutu 50 mlynedd, a diweddodd ei oes yn 1873. Yr oedd ganddo fedr (tact) i fod ar y blaen. Cerddodd lawer i Gyfarfodydd Ysgolion a Chyfarfodydd Misol, am y rheswm, ebe fe, nad ai neb arall i'r cyfarfodydd hyn.

John Davies. Daeth yma o Lwyngwril, a chan ei fod yn flaenor yno, galwai John Lewis sylw at hyn mewn cyfarfod eglwysig, a dymunai iddo weithredu fel blaenor yn Sion, a'r hyn y cydsyniwyd trwy godiad llaw. Parhaodd yn y swydd yn ddibrofedigaeth i'w frodyr hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 26ain, 1881, yn 80 mlwydd oed.

Dafydd Owen. Daeth yma o Bontddu, oddeutu 1845. Gosodwyd yntau yn y swydd trwy godiad llaw. Gan ei fod yn byw yn y Penrhyn, yn agos i Ferry Abermaw, bu ef a'i deulu yn ffyddlon i groesawu pregethwyr, trwy eu lletya, a'u cyfarwyddo ol a blaen dros yr afon. Safai yn uchel ei gymeriad yma, fel yn y lleoedd eraill y bu yn byw ynddynt. Symudodd oddiyma i'r Dyffryn.

Bu y tri hyn yn blaenori yr eglwys gyda'u gilydd am dymor maith. Yn y Cyfarfod Misol a gynhelid yma Mai 1853, rhoddai y Parch. Robert Williams, Aberdyfi, yr hwn oedd yn olygwr ar yr eglwys ar y pryd, hanes yr achos yn y lle, a dywedai, "Fod Dafydd Owen yn un ar ei ben ei hun, yn barchus, ac heb ddim gan neb i'w ddweyd yn ei erbyn:— John Davies wedi bod mewn rhyw dipyn o rwystrau a phrofedigaethau efo'r byd er's blynyddoedd, ond yn arwyddo yn awr i