Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/462

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar ol ffurfio achos yn y lle. Capel bychan oedd hwn, ychydig islaw eglwys y plwyf, o'r tu deheu iddi, ac wedi ei sicrhau yn feddiant i'r Cyfundeb. Yn fwy cywir dylid dweyd mai hen dŷ oedd Tanllan ar y cyntaf, ond wedi ei droi gan y Methodistiaid i wasanaethu fel capel. Bu cyfeillion Dolgellau yn cynorthwyo i brynu a thalu am y lle hwn. Erys llawn cymaint o dywyllwch o amgylch dechreuad yr achos yma ag un man yn y dosbarth. Y mae bron yn sicr nad oedd yma ddim moddion yn y byd yn y flwyddyn 1800, oblegid tystiolaeth L. W., fel y gwelwyd, ydyw mai un daith oedd yr holl ddosbarth y flwyddyn hono, sef Bontddu, Llanfachreth, a Dolgellau. Ac ystyrid lle yn ddigon agos i'r dref, i bawb fyned yno i foddion gras. Mae yn debyg mai Ysgol Sul ddechreuwyd yn yr ardal gyntaf, ac fe ddywedir mai Richard Roberts, Hafod fedw, wedi hyny y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, oedd ei gwir gychwynydd hi. Efe yn sicr oedd yr un a'i dygodd i ffurf reolaidd a pharhaus. Ond dywed L. W. ei fod ef yn cadw Ysgol Sul yn hen dŷ Tanllan pan yr argyhoeddwyd Richard Roberts, yr hyn a raid fod wedi cymeryd lle yn rhywle o gylch 1805. Dywed hefyd fod Robert Ellis, Hafodfedw, tad Richard Roberts yn ŵr duwiol, ac yn un o'r crefyddwyr cyntaf yn y wlad. Byddai arferol a myned i Langeitho ar Sabbath y cymundeb. Sicr ydyw fod y gŵr hwn yn un o'r proffeswyr cyntaf a ymunodd â chrefydd yn nhref Dolgellau. A'r eglwys yn Nolgellau yr ymunodd Richard Roberts ar ol cael ei argyhoeddi, yr hyn sydd yn brawf ychwanegol nad oedd yr un eglwys wedi ei sefydlu yn Llanelltyd y pryd hwnw. Yr oedd yr Ysgol Sul, modd bynag, wedi cyraedd cryn enwogrwydd yma cyn diwedd y flwyddyn gyntaf y ffurfiwyd Cyfarfod Ysgolion y Dosbarth. Ysgrifena L. W. fel y canlyn:- Dolgellau, Hydref laf, 1817. "At Ysgol Llanelltyd, oddiwrth Gyfarfod Daufisol Bontddu. Ein hanwyl gyd lafurwyr gyda gwaith yr Arglwydd yn