Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/463

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athrawon ac ysgolheigion—yr ydym yn ystyried ein bod tan rwymau i'ch cydnabod mewn diolchgarwch ger bron Duw am iddo eich cynysgaeddu â'r fath helaeth ddoniau i ddysgu y Gair ac egwyddorion crefydd, oherwydd mai chwi a ragorodd y ddau fis hyn mewn dysgu—(1) fel Ysgol; o'r Bibl 141 o benodau, a 2719 o adnodau; (2) un o'ch ysgol chwi a ddysgodd fwyaf, Margaret Barrow; (3) un o honoch chwi hefyd a ddysgodd fwyaf o'r Hyfforddwr, John Jones. Ewch rhagoch fel y caffom achos i'ch anerch y tro nesaf yn helaethach na'r tro hwn. Hyn oddiwrth Gyfarfod Daufisol ardaloedd Dolgellau, trwy eich ufudd wasanaethwr L. W., cynorthwyydd ysgrifenydd y cyfarfod."

Yr unig adgofion am achos crefydd yn hen gapel Tanllan ydynt ychydig o ddywediadau yr hen bregethwyr, y rhai a argraffwyd ar feddyliau y plant oedd yn eu gwrando. Pregethai yr hen bregethwr o'r Deheudir, Edward Gosslet, yno ryw adeg ar falchder, ac wedi ei gynhyrfu wrth weled y colours yn ngwisgoedd rhai o'r merched ieuainc oedd yn y cyfarfod dywedai, Pan fyddwch yn llwyddo gyda'r byd, mae gŵr y tŷ yn mynd a'r ebol bach i'r ffair i'w werthu, ac yn cael £8 am dano; tranoeth aiff y wraig i'r dref i brynu gwerth punt o artificials, i blesio mab hynaf y diafol." Un o chwiorydd hynaf yr eglwys a adroddai fod pregeth o eiddo y diweddar Barch. John Hughes, Liverpool, wedi gadael argraff dda ar feddwl y gwrandawyr. Pregethai am fawredd Duw yn ei weithredoedd, ac meddai, "Yr wyf fi fy hun i briodoli fy mod y peth ydwyf, am y byddwn yn myned yn llaw fy nhad i'r capel pan yn blentyn, a thrwy iddo ef adrodd wrthyf am y sêr y gwnaed yr argraffiadau crefyddol cyntaf ar fy meddwl." Yr un chwaer a adroddai fod Ffoulk Evans yn Llanelltyd rywbryd yn cadw seiat, gyda grym a llewyrch neillduol. Siaradai ag un o'r crefyddwyr, a phwyntiai a'i fys—"Y mae genyt ti rywbeth fydd yn aros pan fydd Cader Idris yna yn neidio oddiar ei gwadnau i'r mor." Trwy gyffelyb bregethau a