Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/464

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chyfarfodydd y gwreiddiodd ac y cynyddodd crefydd yn y wlad.

Byddai yn arferiad gan y Methodistiaid yn Llanelltyd yn wastad, amser yn ol, fyned i'r gwasanaeth i eglwys y plwyf am un-ar-ddeg boren Sabbath; a phan fyddai gwasanaeth yr Eglwys yn digwydd bod y prydnhawn, rhoddent heibio foddion y capel yn llwyr er mwyn myned yno. Caredigrwydd mawr arall hefyd a wnaeth y Methodistiaid oedd, symud eu lle addoliad oddiwrth yr eglwys i'r man y mae y capel yn bresenol. Gwnaethant hyn yn gwbl i gyfarfod â dymuniad rhai personau a berthynent i eglwys y plwyf. Priodol iawn y gellir gofyn, Pa ad-daliad a dderbyniodd yr Ymneillduwyr yn yr ardal hon am eu caredigrwydd yr holl flynyddau aethant heibio i'r Eglwys Wladol? Tra gwahanol y mae wedi bod yma i dalu da am dda hyd yn hyn. Y mae hon yn un o'r ardaloedd yn Nghymru y bu gorfod i'r Anghydffurfwyr ddioddef llawer oddiwrth dra-arglwyddiaeth yr Eglwys.

Ar y cyntaf, yr oedd Llanelltyd yn un o dri neu bedwar lle gyda Dolgellau yn gwneyd i fyny daith Sabbath. Yn 1840, y daith oedd, Llanelltyd, Carmel, a Rhiwspardyn. Yn ddiweddarach y cysylltwyd y lle a'r Bontddu.

Adeiladwyd ysgoldy Tynycoed, yr hwn a elwir Soar, yn y flwyddyn 1846. Saif y lle rhwng Llanelltyd a'r Bontddu. Cangen ydyw hyd yn hyn, heb ymffurfio yn eglwys o gwbl, ond yr aelodau yn perthyn i Lanelltyd. Cafwyd prydles am y tir am 99 mlynedd, a haner coron o ardreth flynyddol. Yn 1837 y sefydlwyd Ysgol Sul yma gyntaf. Ellis Jones, John Owen, Maesgarnedd, a Robert Sion, Llanelltyd, yw yr enwau a geir ynglyn â'i sefydliad. Arferai y cyfeillion hyn fyned i ardal Tynycoed, i gynorthwyo mewn cynal cyfarfodydd gweddi, ac un tro wedi ymneillduo ar y ffordd i ofyn am wedd wyneb yr Arglwydd, cawsant gyfarfod gweddi hynod, a dywedir mai ar y llanerch y buont yn gweddio y codwyd capel Soar. Cafwyd y tir i adeiladu trwy offerynoliaeth gwr ieuanc oedd yn was