Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/466

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

John Owen, Maesygarnedd a fu yn flaenor da yma, ond a ymfudodd i'r America er's llawer blwyddyn. Gwasanaethodd grefydd yn ffyddlon wedi myned i'r ochr arall i'r môr, a bu yn foddion i sefydlu eglwys Fethodistaidd yn ardal Caledonia, ger y Portage, Wisconsin.

Elias Williams a David Pugh a dderbyniwyd gyda'u gilydd yn aelodau o'r Cyfarfod Misol, Mehefin 1816. Yr oedd y cyntaf yn ŵr medrus a galluog; yn ysgrifenwr a siaradwr hwylus. Cyrhaeddodd ei ddefnyddioldeb yn bellach na'r cylch cartrefol; bu rai gweithiau yn gwneuthur gwasanaeth i'r achos yn y dosbarth. D. Pugh oedd ŵr distaw, gwastad, ffyddlon. Bu farw yn 1876, yn 79 mlwydd oed.

William Barrow.—Dewiswyd ef yn flaenor yn y Bontddu, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol, Mawrth 27, 1846. Yr oedd yn ŵr da a defnyddiol, zelog dros yr Hyfforddwr, yr Ysgol Sabbothol, a dirwest; plaen ac unplyg ei gymeriad, a dichlynaidd ei rodiad. Bu farw yn 1886, yn yr oedran mawr o 88.

Evan Jones, Hengwrt, a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol Ionawr, 1858. Symudodd yn niwedd ei oes i Ddolgellau, a dewiswyd ef yn flaenor yno. Gwasanaethodd yr eglwys gyda ffyddlondeb mawr.

Robert Edwards.—Bu ef farw yn nghanol y flwyddyn 1886, heb fod yn y swydd o flaenor ond am dymor cymharol fyr. O ddyn cyffredin, yr oedd ef ar lawer ystyr yn anghyffredin. Yr oedd yn wreiddiol yn ei sylwadau, ac yn llafurus i gyraedd gwybodaeth. Cynyddai a deuai yn fwy defnyddiol o hyd i'r diwedd.

Mri. Robert Roberts a Thomas Griffith a ddewiswyd i'r swydd yn 1875; y cyntaf wedi symud i Rehoboth, a'r olaf wedi symud yn awr i Lwyngwril. Bu llawer eraill yn gwasanaethu yr achos yn ffyddlon yma heblaw y rhai a nodwyd. Y Parch. Richard Roberts, yn yr amser cyntaf; wedi hyny, y Parch. W. Davies, yn awr o Lanegryn; Mrs. Williams, Ty'ny