Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/467

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-celyn; Mrs. Jones, Hengwrt; a Miss Roberts, Bwlchygwynt. Gweddus ydyw crybwyll, hefyd, gan eu bod wedi symud i le arall, am wasanaeth a charedigrwydd Mr. Thomas Griffith, y Post Office, a'i briod, yn lletya pregethwyr am lawer o flynyddoedd.

Y blaenoriaid presenol ydynt, Mri. William Pugh, Richard Roberts, Richard Evans, a William Edwards.

Bu y Parch. D. Jones, Garegddu, yn weinidog rheolaidd yr eglwys hon o 1862 i 1865; a'r Parch. J. Davies, o 1865 i 1883. Y mae y Parch. E. V. Humphreys mewn cysylltiad a'r eglwys yn awr er 1885.

Hugh Barrow a John Jones yn cadw seiat yn Llanelltyd.—

Yr oedd H. Barrow—ysgrifena y Parch. D. Jones, Garegddu, yr hwn a anfonodd y cofnodiad i'w roddi gyda hanes yr eglwys hon yn byw yn Tynant, lle rhwng Bontddu a Llanelltyd, a byddai wrth ei fod yn flaenor o gryn zel a gweithgarwch, yn myned i'r ddwy seiat, sef i Lanelltyd a'r Bontddu. Yr oedd John Jones yn ddiacon yn nghapel y Gwynfryn, ac yn wr darllengar, goleu yn yr Ysgrythyrau, ac ymhell o flaen ei gydnabod mewn profiad a gwybodaeth. Bragwr ydoedd, a byddai ar adegau yn dyfod i'r Hengwrt, gerllaw Dolgellau, i fragu, ac ar yr adegau hyny deuai i'r cyfarfod eglwysig i Lanelltyd a Dolgellau, a mawr fyddai y balchder o'i weled, a chlywed ei sylwadau tarawgar; a rhoddid ef y rhan fynychaf i gadw seiat pan y deuai.

Yr oedd John Jones un tro wedi dyfod i'r seiat i Lanelltyd, a chymhellai H. Barrow ef i fyned o gwmpas i wrando profiadau. Aeth yr hen wr yn union. Gofynai i hwn, ond nid oedd dim profiad i'w gael; gofynai i un arall, ond nid oedd dim yn dyfod; aeth heibio i bob un ac ni chafodd ddim gan neb. Yr oedd fel Gilboa ar bawb o'r gwyddfodolion; a chan mai felly yr oedd pethau, aeth i'r sêt fawr at H. Barrow, a dywedodd, "Wel, nid wyf fi yn cael dim, Hugh, gan neb, nid oes yma yr un gair i'w gael; feallai y byddai yn well i ni ein dau ddweyd ein profiadau wrth ein gilydd," ac