eisteddodd i lawr yr ochr arall ar gyfer H. Barrow. "O'r goreu," meddai H. Barrow, dechreua di John Jones, mi ddeuda ina dipyn wedy'n." Ar hyn, dechreuodd John Jones ddweyd ar ei eistedd, ac adrodd yr hyn a wnelsai yr Arglwydd i'w enaid; a darluniai yr olwg newydd oedd wedi ei gael ar ogoniant Person y Gwaredwr, a'r Iawn, ei hoff bynciau, nes oedd llygaid H. Barrow yn ddagrau, a'i lestri bron ag ymddryllio. Ond dweyd a dal i ddweyd yr oedd John Jones, nes o'r diwedd y llefodd H. Barrow allan, "Wel, aros bellach, gad i minau ddweyd gair." A dechreuodd H. Barrow, a daliodd yntau i adrodd ac adrodd y pethau daionus yr oedd wedi eu mwynhau, nes y dywedai John Jones, "Wel, aros, gad i minau yrwan;" a dechreuai y llall, nes y bu y ddau hen bererin yn adrodd i'w gilydd am amser maith, a'r cyfarfod y tuallan i'r sêt fawr yn foddfa o ddagrau, a'r lle yn "fynydd y gwedd-newidiad" mewn gwirionedd. "Fel yna y mae hi, on'te, Hugh," meddai John Jones, a seliai H. Barrow y dystiolaeth ol ei brofiad ei hun. A Hugh wedy'n yn apelio at John Jones, nes yr oedd y bobl yn cael prawf fod y ddau hen Cristion yn gallu "tynu dwfr o ffynhonau yr Iachawdwriaeth," pan yr oedd ffynhonau eraill wedi myned yn hesp. Cyn y diwedd llefodd rhywun o ganol y capel mewn gorfoledd, a phe buasid yn myned o amgylch y pryd hwnw, diau y cawsid fod y dyfroedd wedi cyraedd hyd at y rhai oedd tuallan i'r sêt fawr. Ni ddeuai y ddau gedyrn hyn byth i'r cyfarfod eglwysig heb fod eu llestri yn llawnion, ond deuent yno wedi bod yn ei gymdeithas Ef, yn diferu o'r "eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnw," nes y byddai yn disgyn ar hyd ymyl eu gwisgoedd.
RHIWSPARDYN.
Saif capel Rhiwspardyn ar ochr y ffordd fawr sydd yn arwain o Ddolgellau i Ddinasmawddwy, o fewn o dair i bedair milldir i'r lle cyntaf, ac ar y groesffordd sydd yn troi i gyfeiriad Corris. Yr Ysgol Sabbothol fu dechreuad yr achos yn y lle, yr hon.a