Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/469

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gedwid am o leiaf 20 mlynedd cyn adeiladu y capel. Ysgrifenodd y diweddar Mr. R. O. Rees, Dolgellau, hanes yr ysgol hon mewn cofnod-lyfr, a gedwir hyd heddyw yn Rhiwspardyn, i groniclo digwyddiadau mewn cysylltiad â'r sefydliad. A chrynhodeb o'r hyn a ysgrifenodd ef yn 1865, ynghyd a rhai ffeithiau ychwanegol, ydyw yr hyn a roddir yma am ddechreuad yr achos.

Y lle cyntaf, adnabyddus yn awr, y cynhelid unrhyw foddion crefyddol yn yr ardal oedd Pantycra. Y person oedd yn byw yno ar y pryd oedd Richard Jones, clytiwr (cobbler) wrth ei gefyddyd. Cynhelid yno gyfarfodydd gweddi gan yr ychydig grefyddwyr oedd yn byw yn yr ardal. Denai brodyr o Ddolgellau i fyny yn achlysurol i'w cynorthwyo yn y cyfarfodydd hyn. Yn Pantycra, hefyd, y byddai y pregethu, pryd bynag y byddai rhyw bregethwr, o ryw enwad, yn y cyfleusdra i roi odfa yn yr ardal. Y lleoedd yr elai trigolion yr ardal i addoli yn rheolaidd oedd i gapel yr Annibynwyr yn y Brithdir, ac i'r dref. Nid oedd un Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu eto yn yr ardal; ai yr ychydig bersonau a aent i'r ysgol, i ysgolion y Brithdir a'r dref. Cyn hir, dechreuwyd cynal cyfarfodydd gweddi, ac weithiau odfa, yn yr Hafodoer. Yno y dechreuwyd cynal Ysgol Sabbothol gyntaf yn yr ardal. Sefydlwyd hi, ebe Mr. R. O. Rees, tuag 1810, gan Griffith Richards, Penycefn, yr hwny doedd, er's rhai blynyddoedd, yn arddwr yn Caerynwch. Dywed rhai, hefyd, fod yr ysgol wedi ei dechreu yn Nghwm Hafodoer mor foreu ag 1805 A hyn y cytuna tystiolaeth yr hynafgwr Richard Roberts, sydd yn byw yn awr yn nhy capel Rhiwspardyn. Y mae ef yn cofio ysgol yn cael ei chadw yn Hafodoer, yn 1806, yn nhy Richard Roberts. Yr oedd Griffith Richards, y gwr a sefydlodd yr ysgol, yn perthyn i'r Barwn Richards. Yr oedd yn ŵr hynod yn ei oes am ei ffyddlondeb gyda phob rhan o deyrnas Crist, ac am ei ddawn gwreiddiol a'i ysbryd gwresog mewn gweddi. Bu yn bleidiwr ffyddlon i'r ysgol tra bu ef yn aros yn Nghaerynwch. Tuag