Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llafurio gydag achos yr Arglwydd yn Sir Feirionydd am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn seren oleu eglur yn Siroedd Meirionydd, Trefaldwyn, a Chaernarfon, yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, Bu farw yn y flwyddyn 1699, yn 62 oed, ac y mae ei feddrod ef yn aros yn mynwent Llanegryn. Yr oedd hyn gan' mlynedd union cyn bod Lewis Williams, Llanfachreth, yn yr ardal hono yn dechreu Ysgol Sul, heb fedru y llythyrenau ei hun.

Ar ei ol daeth ei fab, John Owen, i drigianu yn Bronclydwr, ac i gymeryd gofal yr eglwysi yr oedd ei dad wedi eu sefydlu. Ond ychydig barhaodd ei oes ef, bu farw yn 30ain oed. Yn nyddlyfr Matthew Henry, yr hwn a bregethodd bregeth angladdol iddo, dywedir "fod Cymru wedi colli canwyll oleu, yr hon a lewyrchai yn nghanol tywyllwch."

Tra yr ydoedd Hugh Owen yn preswylio yn Bronelydwr, ac yn llafurio yn yr efengyl o fewn cyffiniau ei ardal, byddai ychydig o wyr da, y rhai oeddynt yr amseroedd hyny mor anaml yn y wlad, megis ymweliadau angylion, yn "few and far between," yn talu ymweliad ag ef yno ac yn cael nodded rhag erlidwyr. Ceir fod y Parchn. Henry Maurice a James Owen wedi bod yno, dau wr a ymroddasant i deithio ac i bregethu yr efengyl yn y lleoedd tywyllaf yn Nghymru yn y cyfnod hwn. A dywedir mai James Owen a bregethodd bregeth angladdol i'r hybarch Hugh Owen, o Fronclydwr. Yr oedd pregethu pregeth angladdol i wyr enwog yn beth cyffredin yn yr oes hono. Ar ol marwolaeth John Owen, yr hwn, am ychydig amser, a fu yn olynydd i'w dad, y nesaf a ddaeth i gymeryd gofal yr eglwysi oedd Edward Kenrick, ei fab-yn- nghyfraith. Gan ei fod ef wedi priodi merch Hugh Owen, daeth Bronclydwr yn etifeddiaeth iddo gyda'i wraig. Ordeiniwyd ef Awst 17eg, 1702, gan Matthew Henry a James Owen. Nid ydym wedi cael yr hanes ymha le yr ordeiniwyd ef, pa un ai yn nhŷ Bronclydwr ai yn rhyw le arall. Nid ymddengys fod dim o enwogrwydd ei dad-yn-nghyfraith yn perthyn iddo