Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/471

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth i fyw i Factory Clywedog, lle yr arhosodd hyd ddiwedd ei oes. Ai brodyr fel cynt o'r dref i'w gynorthwyo yn Rhiwspardyn. Aent o amgylch y ffermydd cyn amser yr ysgol bob Sabbath, i gymell pawb, yn enwedig yr ieuenctyd, i ddyfod iddi. Dywed y diweddar Mr. David Jones, Dolgellau, i Ysgol Sul gael ei chynal am ryw ysbaid yn Clywedog, yn nhŷ Hugh Vaughan, a bod effeithiau daionus iawn wedi ei dilyn yno. Ond yn ol yr hanes a rydd Mr. Rees, parhawyd i'w chynal yn hen dŷ Rhiwspardyn hyd 1818, pryd yr ymadawodd John Pugh oddiyno. Nid oedd yr hen dy ond bwthyn adfeiliedig ac anolygus nodedig, er hyny gwnaed ef yn lle cysegredig a byth-gofiadwy i lawer a gyfarfyddent ynddo, trwy i'r Arglwydd yn fynych ddyfod yno, yn ngherbyd yr iachawdwriaeth. Ymhen ychydig flynyddau ar ol hyn, achubodd Hugh Vaughan y cyfle i gael gan eglwys Salem, mewn undeb â'r brodyr yn Rhiwspardyn, i adeiladu y capel presenol yno. Y golofn bwysicaf, yn nesaf ato ef, yn cynal yr Ysgol Sabbothol a ddechreuodd yn yr ardal hon oedd Rees Williams, o'r Gorwyr, gŵr o synwyr cryf a gwybodaeth ysgrythyrol tuhwnt i'r cyffredin, ac athraw ffyddlon yn yr ysgol yn Rhiwspardyn, hyd ei symudiad oddiyno i fyw i Ddolgellau ymhen blynyddau lawer. Oherwydd ei fod yn ysgrifenwr da, byddai yn cynorthwyo llawer ar William Jones, y blaenor, gyda'r llyfrau, ac yn gweithredu fel ysgrifenydd yr eglwys, er nad ydoedd yn flaenor ei hun. Cododd yr Arglwydd, o dro i dro wedi hyny, weithwyr fyddlon ymysg y meibion a'r merched o blaid yr Ysgol Sul, a'r achos yn gyffredinol. Yr wyf yn cofio," ebe John Jones, y blaenor presenol, "chwech neu saith o rai a fyddent yn arfer a gweddio yn gyhoeddus yn y capel yn amser H. Vaughan Robert Richards, Farrier; Rees Williams, Glanyrafon, a brawd iddo, Peter Williams, Beudyglas; John Edwards, Ty'nycornel; William Jones, Tyntwll; Griffith Pugh, Dolysbyty, wedi hyny o Tanyfoel, Llanfachreth; Evan