Tudalen:Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I.pdf/473

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drysau a'r ffenestri; talu am bolion o Ddolserau; am flaggs o Ddinasmawddwy; am lechau i doi o Aberllefeni; am bwysau wrth y ffenestri o'r Amwythig; am wydr a shasses o Gaergybi; am lifio coed; am flew am ben calch, a mil a mwy o bethau cyffelyb. Nid ymddengys fod dim nerth yn yr ardal i dalu dim o'r ddyled. Yr oll y buwyd yn alluog i'w grynhoi ynghyd yr amser yr adeiladwyd y capel oedd £42 11s. 10c., yr hwn swm a gasglwyd trwy docynau o wahanol fanau gan 17 o gasglwyr. Byddent yn gwneuthur casgliad at y ddyled yn fynych yn y gynulleidfa, ond ni byddai hwnw yn dyfod ond i ychydig syll- tau. Ac unwaith, ymhen rhyw bedair blynedd ar ol adeiladu y capel, derbyniasant rodd o £10 oddiwrth eglwys Salem, Dolgellau. Pan y daeth y flwyddyn i dalu holl ddyledion y capelau rhwng y Ddwy Afon, sef y flwyddyn 1839, cliriwyd dyled Rhiwspardyn hefyd yn glir ymhlith y trwp. Casglwyd ganddynt hwy eu hunain i'r gronfa gyffredinol £47 15s. Bc., a derbyniasant allan o honi £102 19s. Oc.

Yr oedd eglwys reolaidd wedi ei ffurfio er's rhyw gynifer o flynyddau cyn adeiladu y capel yn hen de Rhiwspardyn. Dywedir ar seiliau da mai John Jones, un o flaenoriaid presenol yr eglwys, oedd y cyntaf a fedyddiwyd ynddi, a hyny gan y Parch. Robert Griffith, Dolgellau. Cymerodd hyn le o leiaf bum mlynedd cyn adeiladu y capel. Ychydig oedd eu rhif am amser maith, a thlodion oeddynt o ran pethau y bywyd hwn. Ymhlith crybwyllion eraill, dywed Mr. John Jones, Tyddynygareg, "Yn nechreu y flwyddyn 1836, sefydlwyd yr achos dirwestol yma, a gwnaeth les dirfawr yn ein plith. Nid yn gymaint, feallai, o sobri y meddwon, ag o atal rhai rhag meddwdod, ynghyd â glanhau a phuro yr aelodau eglwysig oddiwrth yr arferiad o ddiota a chyfeddach. Oddeutu y blynyddoedd 1840-1844, bu y Parch. William Jones, Rhyd-ddu, yn aros yn y gymydogaeth. Yr oedd chwarel yn cael ei gweithio y pryd hwnw ar fynydd Gwanas, a bu Mr. Jones yn oruchwyliwr arni y blynyddau a nodwyd. A chan